Cod y Modiwl | DA10910 | ||
Teitl y Modiwl | METHODOLEG MAES AMGYLCHEDDOL | ||
Blwyddyn Academaidd | 2002/2003 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Rhys A Jones | ||
Semester | Semester 2 | ||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Aled P Rowlands | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | Dysgir y modiwl ar chwe diwrnod maes dros dri phenwythnos. Bydd yn cyfuno elfennau darlith, seminarau a dosbarthiadau ymarferol. | |
Dulliau Asesu | Asesiad Semester | Adroddiad ar brosiect estynedyg. Bydd gofyn i fyfyrwir gyflwyno adroddiad 2500 o eiriau ar brosiect unigol sy'n ymhelaethu ar thema drafodir ar un o'r diwrnodau maes, trwy ddefynyddio data eilaidd, deunydd ar y We a gwaith darllen cefndir perthnasol. Penderfynir ar pwnc y prosiect gan myfyrwir ar y cyd a'r staff darlithio. | 50% |
Asesiad Semester | Adroddiadau Maes. Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno 6 adroddiad maes yn cryno, un ar bob un o'r diwrnodau maes. Bydd pob adroddiad maes yn cyfrannu i'r marc terfynol. | 30% | |
Asesiad Semester | Cyflwyniadau llafar grwp. Yn seiledig ar waith prosiect a wnaed ar bob un o'r diwrnodau maes. Cyfrifir y marc terfynol ar sail cymedr y marciau a geir am bob un o'r chwe chyflwyniad. | 20% | |
Asesiad Ailsefyll | Ailsefyll elfennau a fethwyd. Ailsefyll oherwydd peidio a chyflwyno gawaith ynghlwm wrth ddiwrnodau maes a gwblhawyd, cwblhau'r elfen(nau) sydd ar goll. Ailsefyll oherwydd peidio a chwblhau diwrnod maes neu absenoldeb o ddiwrnod maes, trwy gwblhau traethawd 1500 o eiriau ar bwnc sy'n gysylltiedig a thema'r diwrnod maes a gollwyd. | 100% |
Dyma'r themau a drafodir yn yr amryw brosiectau:
Aberystwyth
Gwerthuso biomas coetiroedd (Aled Rowlands)
Daearyddiaethau eithrio yn Aberystwyth (Rhys Jones)
Bangor
Gwerthuso defnydd tir yng ngogledd-orllewin Cymru: ffactorau ffisegol a dynol (Ioan ap Dewi)
Cymunedau gwledig Cymru: parhad a newid (Geraint George)
Caerfyrddin
Datblygiad gorlifdiroedd: doe a heddiw Dyfed Elis-Gruffydd)
Gwrthdaro yng nghefn gwlad: achos ffermydd gwynt (Dai Rogers)