Cod y Modiwl DD10320  
Teitl y Modiwl EGWYDDORION PERFFORMIO  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Charmian C Savill  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Yr Athro Mike Pearson, Dr Roger Owen  
Cyd-Ofynion DD10520  
Manylion y cyrsiau Sesiwn Ymarferol   40 Awr 2 ddosbarth ymarferol 2 awr bob wythnos  
  Seminarau / Tiwtorialau   2 Awr Seminarau.  
Dulliau Asesu Asesiad Semester   Traethodau: Llyfyr nodiadau   60%  
  Asesiad Semester   Adroddiad Sector Gr P: Cyfraniad ac ymroddiad yn y dosbarthiadau   40%  

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y modiwl dylai myfyrwyr fedru:

cyfrannu'n effeithiol mewn gwaith byrfyfyr
trefnu eu perfformiad eu hunain mewn grwpiau ac yn unigol
cofnodi eu hymwneud mewn gwaith ymarferol drwy ddogfennu'r prosesau a ddilynwyd yn effeithiol
mynegi ymwybyddiaeth o'r ffaith fod cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol yn gadael ei effaith ar ffurf a swyddogaeth gwahanol fathau o berfformio

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl yn cynnig archwiliad ymarferol o agweddau ar berfformio yn y diwylliant Cymreig a thu hwnt fel modelau ar gyfer cyflwyno rhai o brif sgiliau gweithio'n ymarferol, megis ymwybyddiaeth gorfforol, y gallu i weithio'n greadigol mewn grwp, mewn deuoedd ac yn unigol, y gallu i greu gwaith yn fyrfyfyr ac i gyflwyno gwaith o flaen cynulleidfa.

Disgwylir i lyfr nodiadiau`r myfyrwyr adlweyrchu`r ffaith iddynt fyfyrio`n eang ynghylch eu gwaith ymarferol gan gydbwyso`r gwaith a gyflawnwyd ganddyny yn gorfforol gyda`r cyd-destun cysyniadol a drafodwyd yn gyffredinol yn ystod y dosbarthiadau. Adlewyrchir pwysigrwydd hyn yn yr asesiad o`r llyfr nodiadau.

Nod

Nod yr Adran wrth gyflwyno'r modiwl hwn yw:

cyflwyno ffyrdd o archwilio perfformio ac ymddygiadau perfformiadol yng Nghymru mewn perthynas a thraddodiadau a dylanwadau o Ewrop a thu hwnt
hyrwyddo cydnabyddiaeth myfyrwyr o'r amryfal gyd-destunau cymdeithasol y mae perfformio yn cael ei amlygu ynddynt, ac archwilio'r cyfryw gyd-destunnau
darparu sylfaen ymarferol ar gyfer archwilio perfformio ac ymddygiadau perfformiadol yn y cyd-destun Cymreig

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Muybridge, Edward. (1995) The Human Body in Motion. Dover
Huxley, Michael a Witts, Noel. (1996) The Twentieth Century Performance Reader. Routledge
Barba, Eugenio a Savarese, Nicola. (1991) Theatre Anthropology: The Secret Art of the Performer. Routledge
Hartley, Peter. (1999) Interpersonal Communication. Routledge

Erthygls
Pearson, Mike. (1997) 'Special Worlds Secret Maps' yn Anna-Marie Taylor (gol.) Staging Wales. Gwasg Prifysgol Cymru