| Cod y Modiwl | DD10820 | ||
| Teitl y Modiwl | PROSIECT YMARFEROL ESTYNEDIG | ||
| Blwyddyn Academaidd | 2002/2003 | ||
| Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | ||
| Semester | Semester 2 | ||
| Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Mr Andrew J Freeman | ||
| Rhagofynion | DD10520 Unrhyw ddau o`r tri modiwl canlynol:, DD10120 , DD10320 | ||
| Manylion y cyrsiau | Eraill | 120 Awr Prosiect. Prosiect ymarferol | |
| Dulliau Asesu | Asesiad Semester | Prosiect grwp Prosiect Gr P: Prosiect grwp, yr asesir cyfraniad yr unigolyn iddo. | 60% |
| Asesiad Semester | Adroddiad ysgrifenedig ar y broses, lle gofynnir i'r myfyrwyr gynnig sylwebaeth ar y broses o ddyfeisio a chreu'r prosiect. | 40% | |
Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i grwp o fyfyrwyr i edrych dros y gwaith y byddant wedi ei gyflawni yn yr Adran (yn arbennig y modiwl craidd, DD10520).
Mae dull asesu`r modiwl wedi ei ddyfeisio er mwyn rhoi pwyslais ar y dasg o ddatblygu a chwblhau prosiect ymarferol mewn cydweithrediad gydag eraill. Ar yr un pryd, mae`n sicrhau bod pib unigolyn yn cael cyfle i arddangos hyd a lled ei d/ddealltwriaeth o`r prosiect ac o`r tasgiau gwahanol y bydd ef/hi wedi`u cwblhau yn ystod y broses.
Amcanion y modiwl hwn yw:
Arwain myfyrwyr i ail-ystyried agweddau ar y gwaith y byddant wedi ei gyflawni ym modiwlau Semester 1.
Dyfeisio a datblygu prosiect ymarferol a fydd yn amlygu dealltwriaeth o'r deunydd hwnnw.
Cyflwyno'r prosiect hwnnw mewn cydweithrediad a'u cydmyfyrwyr, gan ddefnyddio sgiliau dadansoddiadol, golygyddol a pherfformiadol perthnasol.