Cod y Modiwl | DD21520 | ||
Teitl y Modiwl | CYFLWYNIAD I BERFFORMIO | ||
Blwyddyn Academaidd | 2002/2003 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | ||
Semester | Semester 2 | ||
Rhagofynion | DD10520 , DD10120 Unrhyw ddau o`r modiwlau canlynol:, DD10320 | ||
Manylion y cyrsiau | Sesiwn Ymarferol | 8 Awr 8 x 2 awr + arrdangosiad o waith ymarferol (tua 120 awr) | |
Dulliau Asesu | Asesiad Semester | Adroddiad Ymarferol: NODIADAU YMARFER AC YMCHWIL | 30% |
Asesiad Semester | Asesu Perfformiad: DATBLYGIAD A CHYFRANIAD IR BROSES YMARFER A PHERFFORMIO | 70% |
- trin y corff a`r llais fel offerynnau creu ystyr ac arwyddion ar lwyfan
- cyflwyno`u gwaith yn hyderus i gynulleidfa ddethol
- profi`u gallu i fyfyrio`n wrthrychol ar y broses ymarferol
- gosod trefn gymwys ar eu profiadau mewn dyddlyfr
Yn y modiwl hwn cyflwynir rhai o brif sgiliau perfformio drwy gyfrwng gwaith ymarferol gan ganolbwyntio ar elfennau sylfaenol megis corff yr actor, perthynas y corff a`r gofod, symbylu a sianelu emosiwn, ffocysu, canolbwyntio a defnyddio`r dychymyg.
Bydd y dosbarthiadau dwy awr wythnosol rhwng dechrau`r Semester a Gwyliau`r Pasg yn cael eu defnyddio i baratoi ar gyfer dangosiad ymarferol.
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- galluogi myfyrwyr i ennill profiad ymarferol o berfformio, a magu sgiliau penodol fel canolbwyntio, ymddiried, byrfyfyrio a.y.y.b.
- gosod gwaith creadigol y myfyrwyr mewn cyd-destun disgyblaethol