Cod y Modiwl DD30120  
Teitl y Modiwl DADANSODDI THEATR  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mrs Anwen M Jones  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu To Be Arranged  
Rhagofynion DD10520 , DD10320 Unrhyw ddau fodiwl o`r tri yma., DD10120  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Awr 10 x 2 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   6 Awr 6 x 1 awr  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   50%  
  Asesiad Semester   Traethodau: TRAETHAWD 2000   25%  
  Asesiad Semester   Traethodau: TRAETHAWD 2000   25%  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:

- arddangos eu dealltwriaeth a`u gwybodaeth o`r Theatre Ewropeaidd drwy ddadansoddi testunau dramataidd a`u gosod yng nghyd-destun datblygiad y Theatr Ewropeaidd yn y cyfnod dan syle

- ymateb yn feirniadol i`r deunydd astudiaeth drwy gymhwyso gwaith ysgolheigaidd yn y maes, yn ogystal a`u triniaeth dadansoddiadol o`r testun dramataidd, i`w gwaith ysgrifenedig

- mynegi eu hamgyffrediad o`r Ddrama fel amlygiad o fath ar Theatre, gan fedru esbonio natur y berthynas gymhleth rhwng testun ysgrifenedig a chyfrwng celfyddydol fyw, ar lafar ac ar bapur

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, fe`ch cyflwynir i rai o brif ddramau y theatr fodern Ewropeaidd, ac i dechnegau dadansoddi sy`n gymwys ar gyfer gosod y testunau hynny yn eu cyd-destun priodol.

Nod

Ein nod wrth gylwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:

- datblygu technegau dadansoddi a gwerthfawrogi`r testun dramataidd fel model o deip arbennig o theatr
- ymgyfarwyddo a rhai o brif destunau dramataidd y Bedwaredd ganrif ar bymtheg a`r Ugeinfed ganrif
- ehangu`r sgiliau dadansoddiadol a feithrinwyd yn DD10120 yn y flwyddyn gyntaf
- bod yn ymwybodol o theatr fel ffenomenon cymdeithasol a llenyddol cymhleth a chywrain
- amlygu gwahaniaethau arwyddocaol mewn method a swyddogaeth y gwahanol destunau a astudir
- archwilio theatr fel strwythur

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Hanfodol
Goethe, J.W.F.. (1994) Faust: Rhan 1 (Dramau Aberystwyth). Argraffwyr Cambria
Buchner, Georg. Woyzeck. (cyfieithiad Guto Dafis, ar gael o`r adran)
Ibsen, Henrik. (1958) Rosmersholm. Peguin Classics
Hauptmann, Gerhart. Y Gwehyddion (The Weavers). Ar gael o`r adran
Ibsen, Henrik. (1960) Pan Ddeffrown NI, Y Meirw (When We Dead Awaken). Penguin Classics
Wedekind, Frank. (1995) Deffro`r Gwanwyn (Spring Awakening). Faber and Faber
Jarry, Alfred. (1968) Ubu Frenin (The Ubu Plays). Methuen
Kaiser, Georg. O Fore Tan Ganol Nos (From Morn to Midnight). Ar gael o`r Adran
Brecht, Bertolt. (1995) Y Fam Ddewrder a`i Phlant (Mother Courage). Methuen Drama