Cod y Modiwl | DD31020 | ||
Teitl y Modiwl | CREU CENEDL: DRAMA IWERDDON YN YR UGEINFED GANRIF | ||
Blwyddyn Academaidd | 2002/2003 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mrs Anwen M Jones | ||
Semester | Semester 2 | ||
Rhagofynion | DD10520 , DD10120 Unrhyw ddau o`r tri modiwl canlynol:, DD10320 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 Awr 10 x 2 awr | |
Dulliau Asesu | Arholiad Semester | 2 Awr ARHOLIAD (2 AWR) | 60% |
Asesiad Semester | Traethodau: TRAETHAWD (2500) | 40% |
- llunio trafodaeth gytbwys o`r berthynas rhwng yr elfennau cyndeithasol a`r elfennau artistig o fewn gwaith unrhyw un o`r dramodwyr a astudiwyd
- cymhwyso`r wybodaeth a gyflwynir yn y sesiynau dysgu wrth geisio tafoli dylanwad a gwerth y dramau a astudiwyd
- ymateb yn gryno a hyblyg i gwestiynua ynglyn a thechneg dramataidd y dramodwy a astudiwyd, gan sylwi`n arbennig i ba raddau y mae gweledigaeth y cyfyrw ddramodwyr yn gynnyrch eu cymdeithas, ac i ba raddau y mae`n gwrthdaro a`u cymdeithas
Yn y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn astudio agweddau ar y theatr ym Mhrydain ac Iwerddon dros gyfnod eang iawn, fel modd o archwilio`r newid sylweddol a welwyd yn theatr a llenyddiaeth ddramataidd y wlad honno ac er mwyn gosod y datblygiadau a welwyd yn theatr Iwerddon mewn cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol priodol.
- deall rhai i`r ffactorau gwleidyddol, masnachol ac artistig sydd wedi effeithio ar ddramodywr yn Lloegr ac Iwerddon yn ystod yr Ugeinfed ganrif
- trin theatr Iwerddon a Lloegr fel modd o gyfleu profiad dychmygol yr unigolyn