Cod y Modiwl DD32820  
Teitl y Modiwl THEATR MEWN ADDYSG  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Roger Owen  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Rhagofynion DD10120 , DD10320  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr 10 x 2 awr  
  Sesiwn Ymarferol   Gwaith dyfeisio, ymarfer a theisio ysgolion (tua 120 awr)  
Dulliau Asesu Asesiad Semester   Gwaith Prosiect: Perfformiad a chyfraniad ir prosiect   40%  
  Asesiad Semester   Traethawd 2,500 o eiriau   40%  
  Asesiad Semester   Gweithdai: Datblygiad yn y gweithdai   20%  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:

- cydweithio fel rhan o grwp creadigol i sylweddoli prosiect ymarferol i bobl ifainc.
- paratoi deunyddiau perthnasol fel ffordd o gefnogi`r prosiect ymarferol.
- ymateb i waith cwmniau TH.M.A. a TH.B.I. trwy ysgrifennu traethawd.

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl hwn yw arcwhilio`r sgiliau a`r technegau sy`n angenrheidiol er mwyn creu theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifainc. Yn ystod y modiel astudir prosiectau TH.M.A. gan wahanol gwmniau. Bydd myfyrwyr yn gorfod gweithio fel rhan o dim cydweithredol gan gysylltu ag ysgolion, ymchwilio, dyfeisio, sgriptio a gweithredu fel actorion/athrawon. Yna disgwylir iddynt baratoi prosiect dan oruchwyliaeth arbenigwr gwadd, a fydd yn cynnwys perfformiad, gweithdai ac unrhyw ddeunyddiau atodol angenrheidiol (megis pecynnau gwaith ar gyfer ysgolion lleol). Rhan bwysig o`r cywaith yw gwerthuso`r gwaith drachefn gydag ymateb yr ysgolion. Fel arfer, fe fydd gan bob aelod o`r tim rhan actio yn y cynhyrchiad, a cheir tri neu bedwar perfformiad mewn ysgolion lleol yn ogystal a pherfformaid agored i aelodau`r Adran

Nod

Nod yr Adran wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw:

- galluogi`r myfyrwyr i ddeall anghenion cynulleidfaoedd ifainc.
- gwerthfawrogi gwaith yr amryfal gwmniau Cymraeg sy`n gweithio yn y maes hwn.
- paratoi myfyrwyr ar gyfer perfformio o flaen cynulleidfaoedd ifainc.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Hanfodol
Boal, A. (1992) Games for Actors and Non-Actors. Routledge
Hodgson, J (ed). (1977) The Uses of Drama: Acting as a Social and Educational Force. Eyre Methuen
Jackson, T (ed). (1980) Learing Through Theatre: Essays and Casebooks on TIE. Manchester University Press
Jackson, T. Learning Through Theatre: New Prespectives on Theatre In Education.