Cod y Modiwl DD32920  
Teitl y Modiwl THEORI CYFARWYDDO  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl To Be Arranged  
Semester Semester 1  
Rhagofynion DD10520 , DD10120 Unrhyw ddau o`r tri modiwl yma:, DD10320  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   11 Awr 10 x 1 awr darlith/seminar  
  Sesiwn Ymarferol   10 Awr 10 x 2 awr gweithdy  
Dulliau Asesu Asesiad Semester   Traethodau: TRAETHAWD (2500)   50%  
  Asesiad Semester   Gwaith Arddangosfa: ARDDANGOSIAD YMARFEROL   50%  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:

- arddangos dealltwriaeth o`r sgiliau priodol, a`r ystod o bosibiliadau ar geal i`r cyfarwyddwr wrth ddehongli testun i`w berfformio
- traethu ar ddatblygiad a thwf y cysyniad a`r ymarfer o gyfarwyddo yn y Theatr Orllweinol ar hyd yr ugeinfed ganrif hyd heddiw
- dangos eu bod yn gyfrifol am eu gwaith creadigol eu hunain ac amlygu ymwybyddiaeth feirniadol o`r gwaith hwnnw mewn trafodaethau
- amlygu, drwy waith ymarferol, eu hymwybyddiaeth o ddulliau cyfarwyddo amrywiol a perthynas y cyfryw ddulliau a gwahanol fathau o theatr

Disgrifiad cryno

Yn y modiwl hwn, fe gyflwynir rhai o egwyddorion sylfaenol y grefft o gyfarwyddo ar gyfer y theatr. Yn y sesiynau dysgu, archwilir datblygiad a thwf y cysyniad o gyfarwyddo ar hyd yr ugeinfed ganrif gan ganolbwyntio ar ddulliau o ddarllen a dehongli drama ar gyfer perfformiad. Trafodir y berthynas rhwng y Cyfarwyddyd a`r Dylunydd, a threfnir sesiynau ymarferol pryd y gall myfyrwyr weithio ac arbrofi ar ddarnau o destunau wedi`u dethol o gyfnodau gwahanol.

Nod

Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:

- dyfnhau eich dealltwriaeth o`r sgiliau priodol, y penderfyniadau, a`r ystod o bosibiliadau sydd ar agor i`r Cyfarwyddydd wrth ddehongli testun i`e berfformio
- cwestiynu rol y sawl sy`n gyfrifol am greu a chlynnu theatr gyfoes

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Hanfodol
BRADBY, David & WILLIAMS, David. (1988) Director's Theatre. Macmillan
COLE, Toby & CHINOY, Helen Kirch. (1976) Directors on Directing. Indianapolis
MILLER, J. (1986) Subsequent Performances. Faber
MITTER, S. (1992) Systems of Rehearsal. Routledge