Cod y Modiwl DD33020  
Teitl y Modiwl YMARFER CYFARWYDDO NEU DDYLUNIO  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Roger Owen  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Donna L Lewis  
Rhagofynion DD10520 , DD10120 Unrhyw ddau o`r tri modiwl canlynol:, DD10320  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr 12 x 1 awr  
  Sesiwn Ymarferol   Cyfarfodydd cynhyrchu ac ymarfer dwys ar gyfer prosiect ac ymweliad theatr  
Dulliau Asesu Asesiad Semester   PROSIECT CYFARWYDDO Gwaith Prosiect: AR GYFER Y PROSIECT CYFARWYDDO YN UNIG   70%  
  Asesiad Semester   Traethawd 3,000 o eiriau Traethodau: AR GYFER Y PROSIECT CYFARWYDDO YN UNIG   30%  
  Asesiad Semester   Prosiect Dylunio Gwaith Prosiect: AR GYFER Y PROSIECT DYLUNIO YN UNIG   40%  
  Asesiad Semester   TRAETHAWD (5,000 o eiriau) Traethodau: AR GYFER Y PROSIECT DYLUNIO YN UNIG   30%  
  Asesiad Semester   NODIADAU MANWL Aseiniad: AR GYFER Y PROSIECT DYLUNIO YN UNIG   30%  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon cyffredin fedru cyflawni`r canlynol:

- cyflwyno gweledigaeth artistig ddatblygiedig i`r tim o`ch cwmpas

- creu strategaeth ymarferol er mwyn gweithredu`r welediageth honno

- ymateb yn gadarnhaol i amgylchiadau a chyd-destun y cynhyrchiad

Disgrifiad cryno

Mae`r modiwl hwn yn ehangu ac yn datblygu ar y gwaith a wnaethpwyd yn Theori Cyfarwyddo a Cyflwyniad i Ddylunio, ac fe`i gyfyngir i fyfyrwyr a chanddynt ddiddordeb gwirioneddol mewn Cyfarwydoo neu Ddylunio. Rhaid i fyfyrwyr Cyfarwyddo baratoi cynhyrchiad 30 munud o hyd ar gyfer ei berfformio`n gyhoeddus. Disgwylir i fyfyrwyr gadw nodiadiu manwl o`r broses ymarfer a pharatoi a`u cyflwyno i`r arholwr mewn viva. Dylai`r traethawd ddadansoddi a thrafod y broses gan bwyso a mesur y gwaith a wnaethpwyd yn wrthrychol.

Gall myfyrwyr sy`n dymuno astudio Dylunio arbennigo drwy lunio cynllun manwl ar gyfer cynhyrchaid adrannol, ei baratoi a`i godi. Yn yr un modd, rhaid i`r myfyrwyr hyn gyflwyno`u bwriadau artistig mewn cyflwyniad llafar (viva voce) a chadw dyddlyfr dylunio sydd yn olrhain y broses grwu a`r penderfyniadau a wnaethpwyd. Dylai`r traethawd ddadansoddi a thrafod y broses gan bwyso a mesuw y gwaith a wnaethpwyd yn wrthrychol.

Bydd darpariaeth tiwtorial/seminar ar gyfer y modiwl hwn yn cymryd ffurf trafodaeth grwp ynghylch y dewis ar gyfer y perfformiad, arddull perfformio a`r drefn ar gyfer ymarfer a chynhyrchu. Bydd sesiynua unigol gyda chyfarwyddywr yn trafod eu gwaith wrth i hwnnw ddatblygu ac ynffurfio. Bydd tiwtoriaid y cwrs yn mynychu o leiaf 3 ymarfer a`r perffomriad ei hun. Ar adeg cwblhau`r prosiectau, cynhelir trafodaethau grwp er mwyn didoli a dadansoddi`r gqaith, ac fe gynigir cymorth tiwtorial i unigolion wrth iddynt ysgrifennu ei traethodau.

Nod

Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- galluogi`r myfyrwyr i ddatblgu a chyflwyno darn cymhleth o waith ymarferol.
- annog y myfywryr i gymryd cyfrifoldeb dros dim o gydweithwyr.
- amlinellu a gweithredu cynllun artistig gwreiddiol.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Barker, Clive. (1977) Theatre Games. Methuen
Brook, Peter. (1993) There Are No Secrets. Methuen
Chekhov, M. (1963) To The Director and the Playwright. Harper & Row
Cole, Susan Letzler. (1992) Director in Rehearsal, A Hidden World. Routlegde