Cod y Modiwl | DD33410 | ||
Teitl y Modiwl | DADANSODDI PERFFORMIO | ||
Blwyddyn Academaidd | 2002/2003 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | ||
Semester | Semester 1 | ||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Yr Athro Mike Pearson | ||
Rhagofynion | DD10120 , DD10320 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 Awr 10 x 1 awr | |
Sesiwn Ymarferol | 3 Awr 3 x 3 awr | ||
Dulliau Asesu | Asesiad Semester | Sylwebaeth Lafar: SYLWEBAETH (3000) | 50% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Gr P: CYFLWYNIAD YMARFEROL (30 MUN) | 50% |
- cymhwyso`r termau a gyflwynir yn ystod y modiwl wrth ddadansoddi darn o berfformiad
- sylwebu`n gryno a deallus ar ddarn o berfformiad
- cymhwyso`r technegau corerograffig a gyflwynir yn y sesiynau ymarferol wrth baratoi cyflwyniad ymarferol
- cyd-weithio mewn grwp at nod a bennir gan ei cyd-aelodau
Yn y modiwl hwn fe`ch cyflwynir i rai o egwyddorion theori Perfformio, ac i`r broses o ddyfeisio a dogfennu gwaith grwp. Fe fydd y darlithoedd, a draddodir yn ystod y pum wythnos cyntaf o`r cwrs, yn dadansoddi`r syniad o berfformio, ac yn ystyried pa rol yn union sydd i berfformio mewn cyflwyniad theatraidd yn ogystal ag mewn nifer o ddulliau perfformiadol eraill nad ydynt o redirwydd yn deillio o`r theatr. Ochr yn ochr a`r darlithoedd hyn, fe gyflwynir cyfres o ddosbarthiadau ymarferol, lle byddwch yn datblygu `geirfa` gorfforol a fydd o ddefnydd wrth gyflwyno proesiect ymarferol ar ddiwedd y semester.
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- helpu myfyrwyr i werthfawrogi deinameg cynhenid perfformio, y tu fewn a`r tu allan i theatr
- cyfuno dealltwriaeth theoretig ac ymarferol o berfformio trwy gyflwyno prosiect ymarferol
- helpu myfyrwyr i ddeall sut y mae perfformiad yn newid yn ol ei gyd-destun gofodol, amserol a chymdeithasol