Cod y Modiwl | DD33720 | ||
Teitl y Modiwl | AMGYLCHFYD Y CYNHYRCHIAD | ||
Blwyddyn Academaidd | 2002/2003 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | To Be Arranged | ||
Semester | Semester 1 | ||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Yr Athro Mike Pearson | ||
Rhagofynion | DD10520 , DD10120 Unrhyw ddau o`r tri modiwl canlynol:, DD10320 | ||
Cyd-Ofynion | DD21520 a/neu DD23310 | ||
Elfennau Anghymharus | I fyfyrwyr Anrhydedd Sengl yn unig | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 Awr 10 x 1 awr | |
Seminarau / Tiwtorialau | 3 Awr 3 x 1 awr | ||
Eraill | Cyfnod arsylwi 7-14 days | ||
Dulliau Asesu | Asesiad Semester | Traethodau: TRAETHAWD HIR (10,000) | 100% |
- dadansoddi eu profiad ymarferol gan werthuso`r gwaith a gyflawnwyd ganddynt
- profi`u dealltwriaeth o fethodoleg dadansoddiadol gymwys ar gyfer ymdrin a`u profiadau ymarferol
- gwerthuso`r sgiliau ymarferol a brofwyd ganddynt yn yr ail flwyddyn, a`u cymhwyso i`r drafodaeth ar y gwaith a gyflawnwyd yn eu cyfnod arsylwi gyda chwmni proffesiynol
- ymateb yn feirniadol i`r gwaith ymarferol a gyflawnwyd ganddynt gan amlygu hynny mewn traethawd hir
Mae`r modiwl yn galluogi myfyrwyr Anrhydedd Sengl i fyfyrio ar, a dadansoddi eu profiad o`r gwaith ymarferol a wnaethpwyd ganddynt yn ystod eu hail semester. Rhoddir gyfle i fyfyrwyr fynd at gwmni proffesiynol am gyfnod o wythnos i bythefnos gan arsylwi ar eu gwaith. Bydd disgwyl iddynt gadw cofnod manwl o`u profiadau ar ffurf ysgrifenedig.
Gall y traethawd gyfeirio at waith perfformio, cyfarwyddo neu ddylunio a ddilynwyd yn y modiwlau canlynol: Dadnsoddi P[erfformio, Cyflwyniad i Berfformio, Cyflwyniad i Ddylunio. Hefyd, yn amlwg, fe all y traethawd ddadansoddi`r broses o greu cynhyrchaid neu o weithio gyda chwmni proffesiynol mewn rhyw fodd. Yn ystod y cwrs bydd myfyrwyr yn strwythuro traethawd hir yn drefnus, yn cymhwyso a chyfathrebu gwybodaeth a phrofiad personol yn ysgrifenedig ac ar lafar, ac yn archwilio cores-doriad o gysyniadau sy`n ymwneud a meysydd penodol y gwahanol fodiwlau ymarferol a`r profiad galwedigaethol.
Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- annog myfyrwyr i ol-fyfyrio ar eu gwaith ymarferol a gyflwynwyd ganddynt yn ystod Rhan 2 o`u cwrs yn yr Adran
- darparu profiad o waith ymarferol gyda chwmni proffesiynol
- galluogi`r myfyrwyr i gymharu`r profiad proffesiynol hwnnw a`r egwyddorion a gyflwynwyd yn ystod y cwrs gradd