Cod y Modiwl | DD33920 | ||
Teitl y Modiwl | THEATR MEWN AMGUEDDFEYDD | ||
Blwyddyn Academaidd | 2002/2003 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Donna L Lewis | ||
Semester | Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod (Dysgwyd dros 2 semester) | ||
Blwyddyn nesaf y cynigir | N/A | ||
Semester nesaf y cynigir | N/A | ||
Rhagofynion | DD10120 , DD10320 | ||
Cyd-Ofynion | DD21520 | ||
Elfennau Anghymharus | I fyfyrwyr Anrhydedd Sengl yn unig | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 Awr 10 x 1 awr | |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 Awr 10 x 1 awr | ||
Sesiwn Ymarferol | Prosiect ymarferol | ||
Dulliau Asesu | Asesiad Semester | Gwaith Prosiect: Prosiect ymarferol (ymchwil, dyfeisio, ymarfer a pherfformio) | 50% |
Asesiad Semester | Traethodau: 2,500 o eiriau | 40% | |
Asesiad Semester | Adroddiad Gwerthuso: Cofnod ysgrifenedig or gwaith archwilio a pharatoi | 10% |
Yn y modiwl hwn, fe gyflwynir astudiaeth o Theatr mewn Amgueddfeydd ynd Nghymru. Byddwch yn mynychu nifer o ddarlithoedd ac yn creu prosiect ymarferol. Er mwyn creu`r prosiect hwnnw, byddwch yn ymweld ag amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol Cymru, yn bennaf Amgueddfa Werin Cymru, er y gallai`r prosiect ymarferol ddigwydd mewn unrhyw un o`r amgueddfeydd hyn (e.e. Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol Caerdydd, yr Amgueddfa Werin, yr Amgueddfa Diwydiant a Mor, Amgueddfa Diwydiant Glwan Cymru, Amgueddfa Llechi Llanberis). Edrychir yn arbennig ar waith mewn lleoliad arbennig (e.e. Llancaiach Fawr, Pentre Canoloesol Cosmeston), y deunydd a ddehonglir a perthynas y perfformwyr/dehonglwyr a`r gynulleidfa/ymwelwyr. Yn ystod cyfnod prosiect disgwylir i fyfyrwyr ymwchiwilo a chrew eu gwaith gan gadw cofnod o`r broses. Ceir cyfnod gwaith yn ymarfer a pherfformio yn dilyn hynny.
Prif Nodau`r Cwrs:
Ein nod wrth gyflwyno`r modwil hwn yw eich galluogi i wneud y canlynol:
- olfyfyrio ar yr holl waith ymarferol a gyflwynwyd gennych yn yr Adran
- ennill profiad ymarferol o waith ymarferol gyda chwmni proffesiynol
- cymharu`r profiad proffesiynnol hwnnw a`r egwyddorion a gyflwynwyd yn ystod y cwrs gradd
Allbynnau Dysg:
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriw/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
- dadansoddi eu profiad ymarferol gan werthuso`r gwaith a gyflawnwyd ganddynt
- dangos iddynt feithrin methodoleg dadansoddiadol sy`n gymwys ar gyfer ymdrin a`u profiadau ymarferol
- gwerthuso`r sgiliau ymarferol a brofwyd ganddynt yn yr ail flwyddyn, a`u cymhwyso i`r drafodaeth ar y gwaith a gyflawnwyd yn eu cyfnod arsylwi gyda chwmni proffesiynnol
- ymateb yn feirniadol i`r gwaith ymarferol a gyflawnwyd ganddynt gan amlygu henny mewn traethawd hir
- datblygy eu hymwybyddiaeth o theatr ymarferol yn gysyniadol drwy gyfrwng traethaed hir