Cod y Modiwl FF19900  
Teitl y Modiwl IAITH FFRANGEG UWCH  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Emyr T Jones  
Semester Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Heather M Williams, Mr Kader Izri, Dr Andrew J Hussey  
Rhagofynion Safon Uwch neu gyfatebol yn yr iaith  
Elfennau Anghymharus FR11420 , FR11520  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   77 Awr 3 awr o ddysgu bob wythnos ac un awr bob pythefnos  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   3 Awr Un arholiad ysgrifenedig x 3 awr   30%  
  Arholiad Semester   Un arholiad llafar x 20 munud   30%  
  Asesiad Semester   Aseiniadau gwaith rheolaidd   30%  
  Asesiad Semester   Ymbresenoli, cyfrannu a chwyflwyno mewn grwpiau bychain   10%  
  Arholiad Ailsefyll   3 Awr Un arholiad ysenedig x 3 awr   100%  

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau’r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru
- gweld cynnydd ers Safon Uwch yn eu sgiliau personol wrth astudio iaith yn annibynnol
- dangos gwelliant yn eu gwybodaeth a’u sgiliau ieithyddol ers Safon Uwch
- dangos hyfedredd ym maes gramadeg a chystrawen yr iaith Ffrangeg ar lefel addas
- cyfieithu darnau penodol o’r Ffrangeg i iaith arall ac fel arall
- adnabod gwahanol gyweiriau yn yr iaith Ffrangeg ysgrifenedig
- defnyddio ystod o strwythurau ieithyddol
- cyfathrebu yn yr iaith Ffrangeg, ar lafar ac ar bapur, hyd at safon sy’n addas ar gyfer Lefel 1
- crynhoi yn Ffrangeg ddeunydd a ysgrifennwyd yn Ffrangeg
- defnyddio geirfa Ffrangeg gymharol gynhwysfawr
- rhoi barn bersonol ar agweddau allweddol ar gymdeithas Ffrainc
- cyfrannu i ddadleuon hyd at safon sy’n addas ar gyfer Lefel 1
- ymateb gan ddangos dealltwriaeth o’r iaith Ffrangeg lafar
- dangos eu bod yn gyfarwydd â chymhwyso gramadeg Ffrangeg at ddefnydd llafar a’u bod yn hyderus wrth wneud hynny
- dewis erthyglau o fyd y cyfryngau, tapiau sain a fideo i’w trafod yn y dosbarth
- chwarae rôl yn Ffrangeg
- cyflwyno yn Ffrangeg
- dangos cynnydd rhuglder a chywirder ynganiad ers mynediad i’r coleg
- defnyddio (dan arolygaeth ac yn annibynnol) yr adnoddau sydd ar gael yn y Ganolfan Adnoddau Iaith (tapiau sain a fideo, dysgu trwy gymorth cyfrifiadur, teledu lloeren)

Disgrifiad cryno

Modiwl sy’n ymestyn dros ddau semester yw hwn a bydd yn cynnwys 3 awr o ddysgu bob wythnos ac un awr bob pythefnos. Bydd myfyrwyr yn gwneud amrywiaeth o ymarferion gwrando/ysgrifennu/llafar. Bydd pob dosbarth yn ymwneud ag astudio mewn ffordd integredig yr iaith Ffrangeg yn ei chyd-destun diwylliannol. Gosodir ymarferion rheolaidd. Bydd marciau’r rhain – a marciau profion achlysurol yn y dosbarth – yn ffurfio’r marc ar gyfer adran Cloriannu Parhaus y cwrs hwn.

Nod

Cysoni’r ffordd y dysgir iaith yn lefel 1 â’r ffordd y dysgir iaith yn lefelau 2 a 3 (hynny yw, dysgu sgiliau iaith llafar ac ysgrifenedig mewn ffordd gyfannol ac oddi mewn i gyd-destun diwylliannol).