Cod y Modiwl | FF30130 | ||
Teitl y Modiwl | YR IAITH FFRANGEG | ||
Blwyddyn Academaidd | 2002/2003 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mr Emyr T Jones | ||
Semester | Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) | ||
Rhagofynion | (Fel rheol) cymhwyster mynediad i Lefel 3 Ffrangeg | ||
Elfennau Anghymharus | FR30130 | ||
Manylion y cyrsiau | Seminarau / Tiwtorialau | 60 awr o ddosbarthiadau iaith | |
Dulliau Asesu | Arholiad Semester | 2x2 Awr Papur arholiad ysgrifenedig, 2 x 2 awr | 60% |
Asesiad Semester | Asesiad Parhaus: Gwaith ysgrifenedig a asesir yn ystod y cwrs. | 40% | |
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr Papur tair awr yw'r arholiad atodol (onibai mai'r elfen lafar yn unig a fethwyd ac mewn achos o'r fath arholiad llafar fydd yr arholiad atodol) | 100% |
- mesur eich cynnydd eich hun mewn geirfa, gwybodaeth ramadegol a rhugledd wrth siarad Ffrangeg ers y buoch dramor
- cyfieithu i Ffrangeg ac o Ffrangeg mewn iaith idiomatig, gan ddefnyddio testunau ffeithiol neu ffuglen
- cyfieithu yn y dosbarth ddarnau dethol na welsoch yn flaenorol
- paratoi darnau i'w cyfieithu a'u trafod yn y dosbarth
- egluro a chyfiawnhau'ch dewis a'ch defnydd o wahanol gyweiriau iaith
- dangos fod gennych feistrolaeth o lefelau gwahanol o arddull yn y Ffrangeg
- dangos eich bod yn gallu paratoi'n effeithiol ar gyfer ysgrifennu traethawd: creu fframwaith, adeiladu dadl resymol a mynegi syniadau yn y cywair ieithyddol addas
- rhoi'r sgiliau iaith yr ydych wedi eu meithrin ar y cwrs Ffrangeg ac yn ystod y flwyddyn dramor ar waith, gan roi pwyslais penodol ar ynganu fel brodor os yw'n bosibl
- eich mynegi'ch hun yn hyderus gan ddefnyddio geirfa gyfoethog ac amywiol
- defnyddio'r eirfa a'r strwythurau gramadeg cymhleth a gyflwynir yn y dosbarthiadau ysgrifennu wrth siarad
- cyflwyno deunydd mewn Ffrangeg llafar neu ysgrifenedig sydd wedi ei baratoi'n annibynnol
- dadansoddi a thrafod testunau Ffrangeg cymhleth
- cyflwyno golwg fanwl ar faterion cyfoes gwleidyddol a diwylliannol Ffrengig.
Y mae aseiniadau gwaith cartref a phrofion yn y dosbarth yn rhan hanfodol o fframwaith modiwlau iaith, yn ogystal a'r arholiadau ar ddiwedd y flwyddyn. Cynlluniwyd yr holl ddulliau asesu i fesur eich cynnydd o'i gymharu a'r canlyniadau dysgu ar y lefel briodol.
Bydd y dosbarth wythnosol cyntaf a'r gwaith sy'n deillio ohono yn canolbwyntio ar ddarllen, ysgrifennu a gwrando yn Ffrangeg. Fe'i seilir ar lyfr y cwrs le Nouveau sans Frontieres 4, sy'n cynnwys amrywiaeth eang o ddeunydd dilys am fywyd a diwylliant Ffrainc. Y nod yw cadarnhau sgiliau a ddatblygwyd yn Lefelau 1 a 2, deall a defnyddio'r iaith Ffrangeg yn fwyfwy rhugl a hyderus yn y gwaith dosbarth a fydd yn canolbwyntio ar ddadansoddi testun, ysgrifennu traethodau ac adroddiadau, technegau crynodeb, a gwrando a darllen a deall.
Dosbarth llafar o sgwrsio gyda siaradwr brodorol yw ail awr yr wythnos.
Treulir dosbarth o awr bob pythefnos yn cyfieithu i'r Ffrangeg ac ohoni (fersiwn a thema). Tueddir i ddewis o blith testunau llenyddol modern. Mae'r cyfyngiadau a ddaw yn sgil yr angen i gadw'n glos at y testun gwreiddiol yn golygu bod gofynion yr ymarferiad yn rhoi prawf sydd gyda'r mwyaf llym ar eich gallu i ddefnyddio'r iaith Ffrangeg, ac yn un o'r ffyrdd gorau o amlygu ac ymchwilio i gymhlethdodau strwythur a gramadeg yr iaith ar lefel uwch.
Caiff gwaith ysgrifenedig ei osod yn rheolaidd a rhaid ei gyflwyno mewn pryd. Fel chi, mae eich tiwtor yn gweithio i amserlenni tynn, ac ni all dderbyn gwaith hwyr. Mae marciau am waith i'w asesu yn mynd tuag at ganlyniad eich gradd, ac os byddwch yn methu a chyflwyno gwaith ar y dyddiad penodedig bydd hyn yn tynnu eich marciau am y modiwl i lawr.