Cod y Modiwl | FT20320 | ||
Teitl y Modiwl | CANRIF O SINEMA 1: FFILM NARATIF YN EWROP A'R UDA 1890-1950 | ||
Blwyddyn Academaidd | 2002/2003 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Professor Ioan M Williams | ||
Semester | Semester 1 | ||
Rhagofynion | FT10720 | ||
Elfennau Anghymharus | TF20320 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 10 Awr | |
Sesiwn Ymarferol | 10 Awr Dosbarthiadau ymarferol | ||
Dulliau Asesu | Asesiad Semester | Traethawd estynedig 2500 o eiriau | 50% |
Asesiad Semester | Sylwebaeth 1 1000 o eiriau | 25% | |
Asesiad Semester | Sylwebaeth 2 1000 o eiriau | 25% |
Dangos ymwybyddiaeth o rai o brif nodweddion ffilm naratif a'r ffordd y'u datblygwyd yn y cyfnod cynnar;
Gwahaniaethu rhwng gwahanol foddau o ddiscwrs a gynnigir yn y deunydd dan sylw;
Trafod techneg adroddiadol ffilm naratif fel y'i amlygir yn y deunydd dan sylw;
Amlygu'r gallu i ddadansoddi'r broses adroddiadol mewn ffilm naratif.
Ar ol cyflwyniad hanesyddol a methodolegol rhoddir cyfle i astudio ffilmiau sy'n enghreifftio rhai o brif nodweddion cynhyrch y diwylliant ffilm yn Ewrop a'r Unol Daleithiau rhwng 1920 a 1948. Rhennir deunydd y modiwl rhwng tri rhan:
(1) Y cyfnod cynnar, at 1930; (2) Ffilmiau'r Unol Daleithiau, 1930-1939; (3) Ffilm yn Eworp, 1945-1950.
Trafodir y ffilmiau unigol a astudir yn y modiwl fel enghreifftiau o draddodiad ffilm fel cyfrwng celfyddydol ac anogir myfyrwyr i ddatblygu techneg o wahaniaethu rhyngddynt o ran y discwrs y maent yn ei gynnal a'r technegau a ddefnyddir i'r amcan hwnnw.