Cod y Modiwl |
FT20410 |
Teitl y Modiwl |
DADANSODDI DOGFEN |
Blwyddyn Academaidd |
2002/2003 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Mr Jamie Medhurst |
Semester |
Semester 2 |
Rhagofynion |
FT10720 |
Manylion y cyrsiau |
Darlithoedd | 10 Awr 10 darlith 3 awr o hyd |
Dulliau Asesu |
Arholiad Semester | 2 Awr | 60% |
|
Asesiad Semester | Traethawd: 2,500 o eiriau | 40% |
Canlyniadau dysgu
Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
Dadadeiladu`r testun gweledol gan nodi`r elfennau hynny o`r broses gynhyrchu sy`n nodweddi pob raglen ddogfen.
Cwestiynu`r cysyniad o wrthrychedd mewn ffilmiau dogfen.
Profi dealltwriaeth o`r gwahanol ddulliau o gyfryngu mewn filmiau dogfen (e.e. trwy ddisgrifio gwahanol fathau a moddau o awduriaeth o fewn y genre).
Dadansoddi`r gwahanol dechnegau o gyflwyno `gwirionedd` y profiad a gyflwynir mewn ffilm ddogfen.
Dangos sut mae gwahanol gynulleidfaoedd cyfoes yn ymateb i destunau ffeithiol, gan gyfeirio`n benodol at agweddau gwleidyddol y broses o dderbyn.
Gwerthfawrogi`r ffordd y mae technoleg yn dylanwadu ar gynnwys ffilm ddogfen.
Nod
Amcan y modiwl yw olrhain twf y ffilm a`r rhaglen deledu ddogfen, cwestiynu`r syniad o wrthrychedd wrth lunio rhaglen a ffilm dogfen, a dadansoddi`r gwahanol ddulliau o fewn y genre. Dadansoddir arddull pob awdur er mwyn gwahaniaethu rhwng yr awdur gweledig a`r ddogfen sy`n honni bod heb awdur a heb gyfryngwr. Gofynnir i fyfyrwyr ystyried cwestiynau ar gyflwyniad `realaeth` ar y sgrin a realaeth pwy yn union a gyflwynir.
Rhestr Ddarllen
Llyfrs
** Argymhellir - Cefndir
Corner, John. (1996)
The Art of Record: A Critical Introduction to Documentary. MUP
Richard Kilborn and John Izod. (1997)
An Introduction to Television Documenatry; Confronting Reality. MUP
Kevin McDonald and Mark Cousins. (1996)
Imagining Reality: The Fbaer Book of Documentary. Faber
Winston, Brian. (1995)
Claiming The Reel: The Documentary Film Revisited. BFI
Paget, Derek. (1998)
No Other Way To Tell It: Dramadoc/Docudrama on Television. MUP
Kilborn, Richard. (1996)
New Texts for Documenatry Production in Britain. Media, Culture and Society, issue 18