Cod y Modiwl FT21820  
Teitl y Modiwl CYNHYRCHU TELEDU (FFUGLEN)  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Andrew J Freeman  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dorian L Jones  
Rhagofynion FT10320  
Elfennau Anghymharus TF21820  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Awr  
  Eraill   12 Awr Gweithdai  
  Seminarau / Tiwtorialau   6 Awr  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau`r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/wraig sy`n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni`r canlynol:
Deall rhai o`r cysyniadau a`r prosesau sydd ynghlwm wrth gynhyrchu drama deledu a ffilm.
`Cyfieithu` a throsglwyddo syniad ar bapur i fod yn gynhyrchiad teledu.
Cynllunio a chreu cy hyrchiad drama deledu.
Defnyddio offer cy hyrchu yn ofalus ac yn greadigol.

Disgrifiad cryno

Trafodir nifer o bynciau yn ystod y modiwl, gan gynnwys ffyrdd o greu cynnyrch clyweledol, cynhyrchu triniaeth ac ysgrifennu sgript, trefniant cynhyrchu, dylunio set, cyfarwyddo camera sengl. gweithio gydag actorion, camerau, a lleoliad, recordio sain ar leoliad, golygu digidol, gosod trac a throsleisio.

Nod

Ein nod wrth gyflwyno`r modiwl hwn yw:
Datblygu dealltwriaeth o`r cysyniadau creadigol a thechnegol a`r prosesau sydd ynghlwm wrth gynhyrchu ffuglen ar y teledu.
Datblygu sgiliau sydd eu hangen er mwyn trawsnewid syniadau ar gyfer teledu ffuglem i gynnyrch clyweled.
Trafod creu arddull, fformat a naratif mewn cynhyrchu ffilm a theledu.
Ystyried methodoleg gonfensiynol ac anghonfensiynol cynhyrchu ffilm a theledu.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Hanfodol
Millerson, Gerald. (1985) The Technique of Television Production. 11. London: Focal Press