Module Identifier | FT22420 | ||
Module Title | IAITH A CHYFRYNGAU | ||
Academic Year | 2002/2003 | ||
Co-ordinator | Miss Elin H G Jones | ||
Semester | Semester 1 | ||
Course delivery | Seminars / Tutorials | 10 Hours | |
Lecture | 10 Hours | ||
Assessment | Semester Assessment | Portffolio (dim mwy na 2500 o eiriau) | 50% |
Semester Assessment | Traethawd (2500 o eiriau) | 50% |
cyflwyno trafodaeth ddeallus o fewn fframwaith ddamcaniaethol o strwythur y cyfryngau darlledu a phrint yng Nghymru (ynghyd â'r cyfryngau eraill hynny o'r tu allan i Gymru a ddefnyddir yn helaeth gan gynulleidfaoedd o fewn tiriogaeth Cymru),
trafod y cyfryngau Cymraeg a Chymreig mewn cydberthynas â chyfryngau mewn cymdeithasau dwyieithog eraill yn Ewrop, ynghyd â'r ffenomenâu sydd yn gyffredin iddynt
dangos ymwybyddiaeth o'r cwestiynau penodol ieithyddol sydd yn wynebu'r cyfryngau a'u cynulleidfaoedd.
strwythur y cyfryngau o fewn cymdeithasau dwyieithog o fewn Ewrop (gyda phwyslais neiltuol ar Gymru)
y fframweithiau damcaniaethol sy'n berthnasol i iaith, cymdeithas a chyfryngau
cynnwys y cyfryngau hyn mewn cydberthynas â chyfryngau mewn ieithoedd eraill
perthynas y cyfryngau â'r grwp(iau) ieithyddol y maent yn eu gwasanaethu
rôl y cyfryngau yn y cyd-destun sosioieithyddol ehangach.
Agweddau ar ddamcaniaeth: Iaith, cymdeithas a chyfryngau
Y cyfryngau mewn cymunedau dwyieithog - teledu, radio, y wasg brintiedig a'r cyfryngau electronig
Iaith a genre rhaglenni teledu
Y gynulleidfa, cyfryngau a dwyieithrwydd.
rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio’r berthynas rhwng y cyfryngau ag iaith, gan gyfeirio at gyfryngau darlledu, print ac electronig
ystyried y fframweithiau damcaniaethol sy'n berthasol i gyfryngau, iaith a chymdeithas
trafod y cyfryngau yng Nghymru mewn perthynas â’r cyfryngau mewn gwledydd eraill yn Ewrop, gan ganolbwyntio ar gymdeithasau sydd ag elfennau sylweddol o ddwyieithrwydd yn perthyn iddynt
trafod strwythur y cyfryngau (fel diwydiannau a gwasanaethau) ynghyd â chynnwys diwylliannol y cyfryngau mewn perthynas â’u cynulleidfaoedd