Cod y Modiwl FT31420  
Teitl y Modiwl YMCHWIL CYNHYRCHIAD  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Jamie Medhurst  
Semester Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Rhagofynion FT10720  
Elfennau Anghymharus TF31420  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   15 Awr  
  Sesiwn Ymarferol   1 Awr Gweithdy ar y Rhyngrwyd  
  Seminarau / Tiwtorialau   Tiwtorials unigol neu mewn grwpiau bychain  
Dulliau Asesu Asesiad Semester   Ffolio Ymchwil gwerth 75% Aseiniad Ysgrifenedig gwerth 25%   100%  

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau'r modiwl hwn, fe ddylai myfyriwr/myfyrwraig sy'n cyrraedd safon gyffredin fedru cyflawni'r canlynol:

Dangos gallu i ymchwilio'n effeithiol mewn sawl maes: wrth ddarganfod syniadau a'u troi yn straeon, wrth ddarganfod lleoliadau cymwys, ac wrth ddarganfod ffynonellau gweledol archifol ysgrifenedig;
Cwblhau nifer o dasgau ymarferol ysgrifenedig i safon foddhaol, gan gynnwys triniaeth o sgript, 'billing' i'r 'Radio Times' , a 'pitch' rhaglen i gefnogi syniad;
Cymhwyso'r ffactorau ymarferol canlynol wrth baratoi sgript: canllawiau'r ITC, S4C a'r BBC o ran polisiau golygyddol; materion Iechyd a Diogelwch; materion cyfreithiol e.e. hawlfraint;
Dangos gallu i ddelio'n effeithiol gyda chyfranwyr.

Disgrifiad cryno

Trafodir nifer o bynciau yn ystod y modiwl, gan gynnwys rol yr ymchwilydd yn y broses gynhurchu ac adnabod y gynulleidfa; itsio'r syniad; gwerthuso a defnyddio ffynonellau gwybodaeth a strategaethau ymchwil; y Rhyngrwyd fel offeryn ymchwilio; ffynonellau archifol; delio a chyfranwyr; polisi golygyddol; iechyd a diogelwch; delio a lleoliadau; ymchwil a'r gyfraith.

Nod

Nod y modiwl yw cyflwyno'r sgiliau angenrheidiol fydd angen i fyfyrwyr i weithio yn y maes ymchwil cynhyrchiad yn y cyfryngau darlledu.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Hanfodol
Chater, Kathy. (1998) Production Research: An Introduction. Focal
Emms, Adele. (2002) Researching for Television and Radio. Routledge