| Cod y Modiwl | GC22010 | ||
| Teitl y Modiwl | GWYDDELEG CANOL A GWYDDELEG MODERN CYNNAR (IAITH A LLÊN)1+2 | ||
| Blwyddyn Academaidd | 2002/2003 | ||
| Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr William J Mahon | ||
| Semester | Semester 2 | ||
| Rhagofynion | Gwyddeleg Lefel 1 | ||
| Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 22 Awr | |
| Dulliau Asesu | Arholiad Semester | 2 Awr | 75% |
| Asesiad Semester | Traethodau: Traethawd/Ymarferion | 25% | |
1. Byddwch yn gallu darllen chwedl Wyddeleg a ddewiswyd o'r cyfnod 1000 - 1300, neu, yn achos testunau hwy, ddarnau dethol o'r chwedl.
2. Byddwch yn gwybod sut i ddadansoddi iaith y chwedl yn ôl dosbarthiadau gramadegol ffurfiau a brawddegau Gwyddeleg Canol.
3. Byddwch yn gwybod am rai o'r newidiadau ieithyddol mawr a arweiniodd o'r Hen Wyddeleg i Wyddeleg Canol, ac o Wyddeleg Canol i Wyddeleg Diweddar.
4. Byddwch yn deall deunydd llenyddol y chwedl, a'i swyddogaeth yn y gymdeithas oedd ohoni yn y cyfnod dan sylw.
5. Byddwch yn gyfarwydd â chyd-destun y chwedl yn hanes llenyddiaeth Wyddeleg.