Cod y Modiwl | GF11010 | ||
Teitl y Modiwl | PROSES CYFREITHIOL | ||
Blwyddyn Academaidd | 2002/2003 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mrs Glenys N Williams | ||
Semester | Semester 1 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 20 Awr Yn Saesneg | |
Seminarau / Tiwtorialau | 4 Awr Seminarau. Yn Gymraeg |
? Dod o hyd i wybodaeth Gyfreithiol
? Defnyddio dulliau ymchwil electronig a chopi caled
? Defnyddio technoleg gwybodaeth
? Dehongli ffynonellau cyfreithiol sylfaen ac eilaidd
? Sgiliau dadansoddi
? Sgiliau datrys problemau
? Llunio a Chloriannu dadleuon
? Rhesymu Cyfreithiol
? Trefnu syniadau a dadleuon
? Sgiliau beirniadol
? Dulliau Cyfreithiol
? Sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ar bapur (ysgrifennu traethodau, ysgrifennu mewn arholiad ac ymryson).
YMCHWILIO I'r GYFRAITH
Ar ol esbonio'r gyntaf yr angen i ddatblygu sgiliau cyfreithiol, mae'r modiwl yn cyflwyno'r syniad o ymchwil gyfreithiol a'r phwysigrwydd sylfaenol i fyfyrwyr a gweithwyr yn y Gyfraith. Cyflwynir Llyfrgell y Gyfraith, a bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo a'r chynllun a'r stoc. Bydd ymarferiad llyfrgell yn gofyn i fyfyrwyr leoli dewis helaeth o ddefnyddiau sy'r berthnasol wrth astudio'r Gyfraith. Trwy hyn bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ymchwilio trwy ddefnyddio `copi caled? (llyfrau, cyfnodolion, adroddiadau yn y gyfraith, gwyddoniaduron ayb) a thrwy ddefnyddio systemau TG. Rhoddir arweiniad arbennig ar ddod o hyd i brif ffynonellau'r gyfraith - ddeddfwriaeth ac adroddiadau'r gyfraith - ar ddod o hyd i lenyddiaeth gyfreithiol academaidd, ac ar gynllunio ymchwil gyfreithiol.
DARLLEN Y GYFRAITH
Yn ogystal a lleoli'r deunydd cyfreithiol addas, rhaid hefyd ddatblygu'r gallu i ddadansoddi a chymhwyso cynnyrch yr ymchwil. Rhoddir arweiniad ar ddarllen a dadansoddi deddfwriaeth, adroddiadau'r gyfraith, a llenyddiaeth academaidd. Trwy gyfres o ymarferion bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau hyn ac yn cael ymateb a rhagor o arweiniad gan y tiwtoriaid. Traethodau cyfreithiol ysgrifenedig ac atebion i broblemau, a thrafod a chyflwyniadau llafar mewn dosbarthiadau fydd y prif ddulliau o ddangos eich gallu i ddarllen a dadansoddi defnyddiau cyfreithiol yn ystod eich astudiaethau. Bydd cyfle yn y modiwl hwn i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau hyn, yn enwedig ysgrifennu cyfreithiol a datrys problemau.
Cyflwyniad
Pwysigrwydd Sgiliau Cyfreithiol
Ymchwilio i'r Gyfraith
Llyfrgell y Gyfraith
Dod o hyd i Ffynonellau Sylfaenol
Dod o hyd i Ffynonellau Eilaidd
Darllen y Gyfraith
Darllen Deddfwriaeth
Darllen Adroddiadau Cyfreithiol
Darllen llenyddiaeth gyfreithiol academaidd
Ysgrifennu Cyfreithiol
Ysgrifennu i wahanol ddibenion cyfreithiol
Ysgrifennu academaidd - adnabod ffynonellau ac awdurdodau