Cod y Modiwl | GF16220 | ||
Teitl y Modiwl | CYFRAITH CYFANSODDIADOL | ||
Blwyddyn Academaidd | 2002/2003 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Mrs Glenys N Williams | ||
Semester | Semester 2 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 35 Awr Yn Saesneg | |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 Awr Seminarau. Yn Gymraeg | ||
Exemptionau Professionalau | Yn angenrheidiol at Bwrpas Proffesiynol |
Asesir y canlyniadau dysgu hyn trwy arholiad ac aseiniad gwaith ysgrifenedig, a fydd yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau traethawd a phroblemau, a byddant yn golygu ymdrin a defnyddiau sylfaenol y cyfansoddiad.
Yn ogystal a'r sgiliau deallusol hyn, bydd myfyrwyr yn medru dangos:
? Sgiliau da wrth reoli amser er mwyn paratoi at seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon
? Y gallu i gyflawni ymchwil annibynnol y rhoddir cydnabyddiaeth amdano yn yr asesiadau
? Canfod a defnyddio ffynonellau perthnasol ar glawr ac ar ffurf electronig. Bydd y seminarau'r gofyn am baratoi defnyddiau o wefannau
? Y gallu i weithio mewn grwpiau - cynhelir hanner y seminarau ar ffurf gweithdai, lle bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bychain ac yn trefnu cyflwyniad byr ar y cyd.
Mae'r wir bod cyfansoddiad Prydain ar y cyfan wedi datblygu'r raddol, ond nid yw hyn yn golygu na fu newid sydyn a mawr dros y blynyddoedd. Yn wir, cafwyd rhai o'r newidiadau dyfnaf yn gymharol ddiweddar wrth i'r Deyrnas Unedig ymuno a'r Gymuned Ewropeaidd ym 1973. Yn ddiweddarach byth, cafwyd y dadleuon brwd ar ddiwygio T?'r Arglwyddi, datganoli, a hawliau dynol. Thema bwysig i'r cwrs yw'r modd y mae'r Cyfansoddiad wedi ymaddasu ac ymdopi ag amgylchiadau sy'r newid. Ystyrir yn fanwl ddeddfwriaeth newydd ar hawliau dynol a datganoli, gan gyfeirio'r arbennig at y Cynulliad Cenedlaethol.
Pwnc pwysig arall a ystyrir gan y cwrs yw'r graddau y mae terfynau i bwerau'r Llywodraeth a'r Senedd. A ydyw'r gywir dweud mewn gwirionedd fod `gan y Senedd yr hawl i wneud unrhyw ddeddf, beth bynnag y bo?? Byddwn yn cymharu cyfansoddiadau gwledydd eraill i weld sut y mae cyfansoddiadau'r ceisio atal y camddefnydd o rym, a byddwn yn ystyried a ydyw sicrwydd tebyg yn bodoli o fewn cyfundrefn Prydain.
Mae'r sicr y bydd myfyrwyr yn gwybod am y ddadl sy'r parhau ar rai sefydliadau yn y cyfansoddiad.
Sut y dylid diwygio T?'r Arglwyddi? Pa rol y dylai'r Frenhiniaeth ei chwarae yn y gyfundrefn gyfansoddiadol? Faint o rym y dylid ei drosglwyddo o San Steffan i'r deddfwrfeydd newydd a ddatganolwyd? Trwy gydol y cwrs byddwn yn ystyried yr agweddau hynny ar y Cyfansoddiad, a fu'r destun yr alwad am newid, a byddwn yn ystyried cynigion diwygio a gyflwynwyd gan amryw gyrff.
1. Cyflwyniad cyffredinol i'r Gyfraith Gyfansoddiadol:
Cyfansoddiadau ysgrifenedig ac anysgrifenedig; terfynau i b'rr llywodraethau; trefnu pwerau llywodraeth; cynnwys y ddeddfwrfa; y weithrediaeth a'r farnwriaeth; gwahaniad pwerau a rhwystrau a gwrthbwysau; cyflwyniad i'r rhaglen diwygio cyfansoddiad DU; cyflwyniad byr i'r Ddeddf Hawliau Dynol.
2. Ffynonellau Cyfansoddiad Prydain:
Rheolau cyfreithiol y Cyfansoddiad: Deddfau'r Senedd a deddfwriaeth ddirprwyol; lle cyfraith y Gymuned Ewropeaidd yn y gyfundrefn; cyflwyniad ar sut y llunnir cyfraith y Gymuned Ewropeaidd; athrawiaethau sylfaenol cyfraith y Gymuned Ewropeaidd; cyflwyniad i gonfensiynau'r Cyfansoddiad; problemau ynghylch adnabod a gorfodi confensiynau; yr achos o blaid gosod confensiynau mewn cod; cyfansoddiad ysgrifenedig i'r Deyrnas Unedig?
3. Patrwm y Deyrnas Unedig:
Cyfansoddiad unedol y Deyrnas Unedig; rhannau cyfansoddol y DU; datganoli; newidiadau ynghylch: Yr Alban; Cymru; Gogledd Iwerddon; Llundain; llywodraeth ganolog a lleol. Sylw arbennig i Ddeddf Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.
4. Y Senedd ac athrawiaeth Sofraniaeth y Senedd:
Y Senedd; ei swyddogaeth a'r chynnwys; elfennau'r athrawiaeth am Sofraniaeth y Senedd; datblygiad a goblygiadau'r athrawiaeth; trosglwyddo sofraniaeth i gyn-drefedigaethau; yr undeb rhwng yr Alban a Lloegr a Chymru; mesurau datganoli; gwarchod hawliau a materion sicrhau (entrenchment); ymuno a'r Gymuned Ewropeaidd (goruchafiaeth cyfraith y Gymuned Ewropeaidd, ac ymaddasu iddi o fewn y DU).
5. Gwarchod hawliau sylfaenol yn y DU:
Deddf Hawliau Dynol; cyflwyniad a chefndir; y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol; yr hawliau a warchodwyd; y modd y mae hawliau wedi eu diogelu; materion cyfreithiol penodol ynghylch y ddeddfwriaeth. (Ymdrinnir a'r pwnc yn bennaf mewn seminarau).
6. Y Senedd a'r Llywodraeth; y Weithrediaeth; y Goron:
Y Frenhiniaeth; Llywodraeth Ganolog; uchelfraint y Goron a rol confensiynau; tasgau'r Llywodraeth; pwerau'r Llywodraeth; rol y Llywodraeth mewn deddfwriaeth; rheolaeth dros bwerau'r Llywodraeth gan D?'r Cyffredin, T?'r Arglwyddi a'r llysoedd; atebolrwydd y Llywodraeth i'r Senedd; cyfyngiadau eraill ar bwerau'r Llywodraeth (gwleidyddiaeth go iawn, democratiaeth, cyfanfydeiddio).
Dysgu
Cyflwynir y dysgu trwy gyfrwng darlithiau (35) a seminarau/gweithdai (8). Bydd y darlithiau yn cynnig cyflwyniad i bob pwnc, a bydd taflenni'r cwrs yn dangos darllen pellach. Grwpiau llai yw'r seminarau, a bwriedir iddynt drafod materion penodol yn fwy manwl.
Bydd gweithdai hefyd yn canolbwyntio ar bynciau arbenigol, a'r bwriad o hybu gwaith gr'r ymhlith myfyrwyr. Yn ogystal a'r elfennau hyn, dylai myfyrwyr ddisgwyl treulio cyfran sylweddol o'r hamser yn y llyfrgell gan baratoi at seminarau, a darllen y gwaith a nodwyd ar y taflenni.