Cod y Modiwl GW30120  
Teitl y Modiwl DAMCANIAETHAU GWLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL HEDDIW  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Timothy J Dunne  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   12 Awr (12 x 1 awr) (yn Saesneg)  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr (10 x 1 awr) (yn Gymraeg)  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   50%  
  Asesiad Semester   Traethodau: 1 x 3,000 o eiriau   50%  
  Arholiad Ailsefyll   Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics.    

Canlyniadau dysgu

Wth gwblhau'r modiwl hwn bydd myfyrwyr yn medru:

· Cloriannu'n feirniadol yr amrediad o ddamcaniaethau cystadleuol ar wleidyddiaeth ryngwladol
· Disgrifio a dadansoddi o leiaf un meddyliwr o bwys sy'n cynrychioli pob safbwynt
· Gwerthuso cysyniadau canolog pob damcaniaeth
· Cymharu gwahanol ddamcaniaethau a chyfleu eu perthnasedd
· Dadansoddi'r berthynas rhwng theori ac arfer mewn amgylchiadau penodol

10 credydau ECTS

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn cynnig hyfforddiant craidd yn nisgyblaeth theori gwleidyddiaeth. Mae’n gwneud hyn trwy ymdrin â’r holl safbwyntiau cystadleuol ar y pwnc.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw adeiladu ar sail theori gwleidyddiaeth a gyflwynwyd yn Rhan 1, gan weithredu fel pont i ddewisiadau mwy arbenigol yn Rhan 2. Un o'r themau canolog sy’n gosod patrwm y modiwl yw pwysigrwydd cysylltu theori ag arfer: o'r personol i'r rhyngwladol, mae ein bywydau’n cael eu llunio a'u llywio trwy ymwneud a theori gwleidyddiaeth.

Cynnwys

Mae'r cwrs yn cychwyn trwy fwrw golwg yn oll dros brif draddodiadau damcaniaethu ar Gysylltiadau Rhyngwladol, megis rhyddfrydiaeth a realaeth glasurol. Mae’n symud yn gyflym i ganolbwyntio ar y ddadl a ysgogwyd gan Theory of International Politics Kenneth Waltz. Nid yn unig y cafodd realaeth fywyd newydd yn sgil y gwaith hwn, ond ysgogwyd hefyd amryw ymatebion beirniadol. Yr olaf o'r rhain oedd Social Theory of International Politics Alexander Wendt. O fewn y fframwaith hwn o 20 mlynedd cafwyd sawl datblygiad newydd mewn theori, gan gynnwys datblygiad theori feirniadol, theori ffeminyddol, ac ol-strwythuraeth.

Sgiliau trosglwyddadwy

Mae'r modiwl hwn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i ddirnad a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Trwy ddarllen dan gyfarwyddyd cyn pob seminar bydd myfyrwyr yn medru ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl. Bydd damcaniaethau megis neorealaeth a damcaniaeth heddwch democrataidd rhyddfrydol yn gofyn am ymdrin a phositifiaeth, gan gynnwys modelau a dadansoddi data hanesyddol. Byd darlithiau'n hybu datblygiad sgiliau deall, gan gynnwys llunio nodiadau; bydd seminarau'n helpu i wella sgiliau cyfathrebu yn ogystal a'r gallu i wrando a chyfrannu i drafodaeth benodol. Mae'r modiwl hefyd yn cynnwys un astudiaeth achos a fwriedir i dangos perthnasedd theori i gyd-destun penodol. Mae dull dysgu o'r fath yn gofyn bod myfyrwyr yn ymdrwytho mewn rol benodol. Yr eitem olaf yn y rhestr o sgiliau trosglwyddadwy yw hybu ymchwil annibynnol (traethawd) a'r gallu i ddadansoddi a llunio dadleuon dan gyfyngiadau amser (arholiad).

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Mark V.Kauppi a Paul R Viotti (goln). (2000) International Relations Theory. 3. Efrog Newydd: Macmillan
Scott Burchill ac Andrew Linklater et al. (2000) Theories of International Politics. 2. Llundain: Palgrave