Cod y Modiwl GW30220  
Teitl y Modiwl DEMOCRATIAETH GYMHAROL  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Lucy F A Taylor  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Yr Athro Michael Foley  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   16 Awr Nifer y darlithiau (yn Saesneg) 16 x 1 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   8 Awr Seminarau yn Gymraeg 8 x 1 awr  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   60%  
  Asesiad Semester   1 traethawd 2,500 o eiriau   40%  
  Arholiad Ailsefyll   Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics.    

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl, bydd myfyrwyr yn medru:
- asesu’n feirniadol ddemocratiaeth fel syniad a chyfundrefn wleidyddol ar waith
- asesu’r gwahanol safbwyntiau ar ddeall proses democrateiddio
- disgrifio a dadansoddi'r ffactorau allweddol, y gweithredwyr, y tueddiadau hanesyddol a'r ddeinameg strwythurol sy'r dylanwadu ar drawsnewid i ddemocratiaeth a'i sefydlogi
- trafod yn feirniadol pa mor bosibl a pha mor ddymunol yw llywodraethau gwleidyddol democrataidd ar wahanol lefelau, ac mewn gwahanol gyd-destunau diwylliannol, yn ogystal ag ansawdd democratiaeth mewn llywodraethau democratiaeth sefydledig

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cynnig sylfaen ddadansoddol i astudio democratiaeth yn feirniadol trwy ddefnyddio technegau dadansoddi cymharol.

Nod

Amcan y modiwl yw pontio'r bwlch rhwng yr elfennau empeiraidd a normadol, trwy ganolbwyntio ar egwyddorion, nodweddion, polisiau a her democratiaeth, yng nghyd-destun amrywiol y byd wedi'r Rhyfel.

Cynnwys

Ar ol trafodaeth ar ddiffinio a mesur democratiaeth, mae'r cwrs yn astudio safbwynt amryw ddamcaniaethau ar ddemocrateiddio. Mae'n cymhwyso’r damcaniaethau hyn wedyn i bedwar achos: Sbaen, Yr Ariannin, Gwlad Pwyl, De Affrica. Maer modiwl wedyn yn trafod problemau gwleidyddol trawsnewid (hawliau dynol, arweinyddiaeth wleidyddol a phleidiau), a phroblemau economaidd (addasu strwythurol a dosbarthu cyfoeth). Mae'r modiwl mynd yn ei flaen i drafod a ellir defnyddio democratiaeth ryddfrydol trwy'r byd (Conffiwsiaeth ac Islam) gan drafod effaith cyfanfydeiddio ar ddemocratiaeth. Yn olaf, mae'n astudio'n feirniadol ansawdd democratiaeth mewn achosion sefydledig megis y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau.

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrywiaeth mawr o sgiliau trosglwyddadwy, a fydd yn eu helpu i ddeall, dirnad a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Trwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a sgiliau sylfaenol mewn trin rhifau a hunanreolaeth. Mewn darlithiau bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando a llunio nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi, a byddant yn ymarfer sgiliau gwrando, esbonio a dadlau, yn ogystal a gwaith tîm a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau'n annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwil annibynnol, ysgrifennu a Thechnoleg Gwybodaeth, a bydd yr arholiad yn rhoi prawf ar y sgiliau hyn dan bwysau amser.

10 Credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Jean Grugel. Democratization: a Critical Introduction.
David Held (gol). Democrization.