Cod y Modiwl GW30320  
Teitl y Modiwl RHYFEL, GWLEIDYDDIAETH A STRATEGAETH  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl To Be Arranged  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   13 Awr (13 x 1 awr) (yn Saesneg)  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr Seminarau. (5 x 2 awr) (yn Gymraeg)  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   3 Awr 1 x 2,000 o eiriau (heb ei asesu)   100%  
  Arholiad Ailsefyll   Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics.    

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl dylai myfyrwyr fedru:

- Cloriannu'n feirniadol y llenyddiaeth ar achosion rhyfel
- Trafod amrediad o gysyniadau allweddol a digwyddiadau hanesyddol a chyfoes mewn perthynas ag esblygiad rhyfel
- Deall rol cyfyngiadau cyfreithiol a moesol ar ryfel
- Cloriannu'r damcaniaethau croes ynghylch a ellir rheoli neu ddileu grym yn offeryn mewn cysylltiadau rhwng gwladwriaethau.

10 Credydau ECTS

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cynnig sylfaen ddadansoddol i astudio rhyfel, gwleidyddiaeth a strategaeth.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cynnig sylfaen gynhwysfawr (cysyniadau, damcaniaethau, hanes) i ddeall ac esbonio materion pwysicaf rhyfel, gwleidyddiaeth a strategaeth yn y byd cyfoes.

Cynnwys

Pedair rhan sydd i'r modiwl:
(1) achosion rhyfel;
(2) esblygiad rhyfel;
(3) cyfyngiadau cyfreithiol a moesol ar ryfel;   
(4) rheoli a dileu rhyfel.

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrediad eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i ddeall, dirnad a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Trwy gydol y cwrs dylai myfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, yn ogystal a sgiliau sylfaenol wrth drin rhifau a hunanreolaeth Yn ystod y darlithiau bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando a llunio nodiadau, yn ogystal a'u sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi ac yn ymarfer sgiliau dadansoddi, esbonio a dadlau, yn ogystal a gwaith tîm a datrys problemau. Wrth ysgrifennu traethodau bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i ymarfer eu sgiliau ymchwil annibynnol, eu sgiliau ysgrifennu a sgiliau TG, a bydd yr arholiad yn rhoi prawf ar y sgiliau hyn dan gyfyngiadau amser.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
George a Lopez and Nancy J Myers (eds). Peace and Security: The Next Generation.
Seyom Brown. The Causes and Prevention of War (2nd Edition).