Cod y Modiwl GW32420  
Teitl y Modiwl SYNIADAETH WLEIDYDDOL YN YR UGAINFED GANRIF  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor Howard L Williams  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   22 Awr Seminarau (11 x 2 awr) (yn Gymraeg)  
Dulliau Asesu Asesiad Semester   Traethodau: 4,500 o eiriau   80%  
  Asesiad Semester   Traethodau: amlinelliad 1,000 o eiriau   20%  
  Arholiad Ailsefyll   Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics.    

Canlyniadau dysgu

Meithrin dealltwriaeth eglur o brif syniadau'r ddau feddyliwr a'u perthnasedd i gymdeithas gyfoes. Dylid mynegi'r ddealltwriaeth hon trwy afael sicr ar y cysyniadau canlynol: cysyniadau Rawls o gydraddoldeb, rhyddid a chyfiawnder dosbarthol; cysyniadau Habermas o'r sffer gyhoeddus, democratiaeth, gwladgarwch cyfansoddiadol a hunaniaeth ol-genedlaethol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn archwilio’n fanwl brif weithiau ysgrifenedig John Rawls a Juergen Habermas mewn theori gymdeithasol a gwleidyddol. Rhoddir sylw arbennig i'r hyn sy'n wahanol ac i'r hyn sy’n debyg yn eu syniadaeth. Rhoddir y cyfle i fyfyrwyr edrych hefyd ar ddatblygiad syniadau'r ddau athronydd dros amser.

Nod

Cyflwyno syniadaeth dau o'r meddylwyr diweddar mwyaf dylanwadol : John Rawls a Juergen Habermas

Cynnwys

Habermas ac Ysgol Frankfurt (1)
Habermas a Gwleidyddiaeth yr Almaen (2)

Cysyniad Habermas o'r sffer gyhoeddus (1)
Y syniad o foeseg disgwrs (1)
A Theory of Justice Rawls - egwyddor gwahaniaeth a llen anwybodaeth (2)
Rhyddfrydiaeth Wleidyddol a gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau (2)
`Cyfraith pobloedd' - cyfiawnder rhyngwladol (10)
Cymharu Rawls a Habermas - adolygu a chasgliad (1)

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau llafar, deallusol a chyfathrebu. Yn y darlithoedd rhoddir pwyslais ar ddeall, dilyn y ddadl a'i chrynhoi yn gryno. Yn y seminarau rhoddir pwyslais ar ddatblygu dadleuon clir, argyhoeddiadol a darbwyllol. Mae'r seminarau yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddangos eu gallu i ymresymu ac i roi barn annibynnol. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i wneud gwaith ymchwil ar eu liwt eu hunain ac i ddatblygu eu sgiliau cyflwyno Technoleg Gwybodaeth. Bydd yr arholiad yn rhoi prawf ar gofio gwybodaeth, ar ddeall ac ar sgiliau dadansoddi'r myfyrwyr dan amodau amser cyfyngedig.

10 Credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
K Baynes. The Normative Grounds of Social Criticism.
J Rawls. Theory of Justice.