Cod y Modiwl GW32920  
Teitl y Modiwl DOSBARTH,CYMUNED A CHENEDL:SYNIADAETH WLEIDYDDOL GYMREIG  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Richard W Jones  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   14 Awr (14 x 1 awr)  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr Seminarau (5 x 2 awr)  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   50%  
  Asesiad Semester   Traethodau: 1 x 3,000 o eiriau   50%  
  Arholiad Ailsefyll   Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics.    

Canlyniadau dysgu

Erbyn cwblhau'r modiwl disgwylir y bydd myfyrwyr yn gallu:

- deall a dadansoddi'n feirniadol prif nodweddion syniadaethol y traddodiadau Rhyddfrydol, Sosialaidd a Chenedlaetholgar yng Nghymru;
- gwerthuso'r modd y mae'r traddodiadau hyn wedi ymdrin a'r cysyniadau gwleidyddol allweddol dosbarth, cymuned a chenedl;
- ystyried yn ddeallus y graddau a ellir honni bod yna ffurf o feddwl gwleidyddol sydd yn nodweddiadol Gymreig.

10 credydau ECTS

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw hybu dealltwriaeth feirniadol o brif elfennau syniadaethol y gwahanol dradoddiadau gwleidyddol a geir yn y Gymru gyfoes.

Nod

Nod y modiwl yw datblygu'r gallu i drafod, deall a dadansoddi'r canlynol:

- prif nodweddion syniadaethol y prif draddodiadau gwleidyddol yng Nghymru, hynny yw, Rhyddfrydiaeth, Sosialaeth a Chenedlaetholdeb;
- y modd y mae'r traddodiadau hyn wedi ymdrin a'r cysyniadau gwleidyddol alweddol dosbarth, cymuned a chenedl;
- y graddau a ellir honni bod yna ffurf o feddwl gwleidyddol sydd yn nodweddiadol Gymreig.

Cynnwys

Bwriad y cwrs yw cyflwyno y prif ffrydiau deallusol sydd wedi sbarduno gweithgaredd gwleidyddol yn y Gymru gyfoes. Yn y darlithoedd cyflwynir gorolwg o'r traddodiad Rhyddfrydol, y traddodiad Sosialaidd a'r traddodiad Cenedlaethol gan drafod eu prif nodweddion syniadaethol a'u gosod yn eu cyd-destun cymdeithasol ehangach. Drwy'r cyfan rhoddir ystyriaeth arbennig i'r modd y mae'r traddodiadau yma wedi ymdrin a thri chysyniad gwleidyddol holl bwysig: dosbarth, cymuned a chenedl. Y mae'r seminarau wedi eu trefnu o amgylch astudiaeth o destunau arbennig – boed areithiau neu bamffledi – sy'n crynhoi corff o syniadau, neu a oedd eu hunain yn sbardun i weithgaredd gwleidyddol.

Sgiliau trosglwyddadwy

Rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd oll o gymorth iddynt wrth geisio deall, dadansoddi a rhoi mynegiant i wahanol syniadau, cysyniadau a digwyddiadau. Trwy gydol y modiwl anogir myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau darllen a dadansoddi, i hogi eu sgiliau rheoli amser, ac i ddeall arwyddocad rhifau syml. Yn y darlithoedd ceir cyfle i ddatblygu sgiliau gwrando a dadansoddi yn ogystal a ysgrifennu nodiadau. Yn y seminarau ceir cyfle i wella sgiliau dadansoddiadol a chyfathrebu, ynghyd a'r gallu i weithio fel rhan o dim. Wrth baratoi traethodau caiff myfyrwyr eu hannog i ddatblygu ymhellach eu gallu i ymchwilio'n annibynnol, ac i wella eu sgiliau ysgrifennu a TG. Yn yr arholiadau profir sgiliau dadansoddiadol ac ysgrifennu yng nghysgod cyfyngder amser.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
K O Morgan. Rebirth of a Nation: Wales 1880-1980.
D Hywel Davies. The Welsh Nationalist Party 1925-1945.