Cod y Modiwl GW33320  
Teitl y Modiwl CUDD-WYBODAETH A DIOGELWCH CENEDLAETHOL  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Peter D Jackson  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   10 Awr 10 x 1 awr Nifer y Darlithiau (yn Saesneg)  
  Seminarau / Tiwtorialau   6 Awr 6 x 2 awr Seminarau yn Gymraeg  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   70%  
  Asesiad Semester   Traethodau:   30%  
  Arholiad Ailsefyll   Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics.    

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y modiwl dylai fod y myfyrwyr yn gallu:

10 credydau ECTS

Disgrifiad cryno

Mae cudd-wybodaeth wedi ei disgrifio fel y "dimensiwn coll" ym maes materion rhyngwladol. Ac eto yr oedd dechreuad y Rhyfel Oer a datblygiad arfau niwclear wedi rhoi cyd-destun ac esgus dros dwf sefydliadau cudd-wybodaeth modern. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae astudiaethau cudd-wybodaeth wedi ymddatblygu'n faes ysgolheigaidd o bwys, gan fwrw goleuni ar ddigwyddiadau a materion allweddol gwleidyddiaeth ryngwladol yr ugeinfed ganrif. Act eto mae sialensiau methodolegol sylweddol ynghlwm wrth astudio cudd-wybodaeth.

Nod

Amcan y cwrs yw ymchwilio i rol cudd-wybodaeth wrth lunio polisiau diogelwch cenedlaethol, a chloriannu i ba raddau y mae'r "byd cudd" wedi bod yn ganolog i'r "byd go iawn". Gwneir hynny drwy astudio digwyddiadau a materion allweddol ym maes cysylltiadau rhyngwladol lle'r oedd gan gudd-wybodaeth rol hanfodol o ran llunio polisiau diogelwch cenedlaethol (ac, yn rhai achosion, lle'r oedd cudd-wybodaeth wedi methu a chyflawni'r rol honno).