Cod y Modiwl GW36220  
Teitl y Modiwl HANES RHYNGWLADOL 1895-1945: ARGYFWNG YR HANNER CAN MLYNEDD  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl To Be Arranged  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   19 Awr (19 x 1 awr) (yn Saesneg)  
  Seminarau / Tiwtorialau   9 Awr (9 x 1 awr Seminarau) (yn Gymraeg)  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   70%  
  Asesiad Semester   Traethodau: 1 x 2,000 o eiriau   30%  
  Arholiad Ailsefyll   Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics.    

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y modiwl bydd myfyrwyr yn medru esbonio:

- y newidiadau yng nghydbwysedd grym a'u cysylltiad a'r ddau Ryfel Byd
- pam y bu'r Unol Daleithiau a'r UGSS yn chwarae rol ymylol yn ol pob golwg yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd
- pam na chafwyd heddwch sefydlog ar ol 1919
- effaith ideolegau ar gysylltiadau rhyngwladol
- datblygiadau mewn syniadau ac arferion rheolaeth economaidd ryngwladol
- cronoleg a tharddiad tranc ymerodraeth
- y graddau yr oedd 1945 ei hun yn drobwynt radicalaidd

10 credydau ECTS

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cynnig cyd-destun i ddeall cysylltiadau rhyngwladol yn yr ugeinfed ganrif trwy ymchwilio i ddatblygiadau yng nghydbwysedd grym, syniadau am drefn ryngwladol, newid cymdeithasegol -economaidd, a thyndra o fewn yr ymerodraethau Ewropeaidd hyd at 1945.

Nod

Amcan y modiwl yw astudio'r newidiadau dirfawr a ddigwyddodd yn y gyfundrefn ryngwladol yn ystod hanner cyntaf y ganrif. Mae'n gwneud hynny trwy annog myfyrwyr i feddwl yn thematig am y cyfnod fel un a aeth trwy gyfres o argyfyngau cysylltiedig rhwng 1895 a 1945.

Cynnwys

Mae'r modiwl yn agor trwy ddadansoddi’r symud a fu yng nghydbwysedd grym yn Ewrop, yn ogystal a thwf y pwerau newydd y tu allan i Ewrop. Cysylltir hyn yn ei dro a syniadau newydd am reoli'r drefn ryngwladol, fe y' gwelir yn y Ddiplomyddiaeth Newydd ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’n mynd yn ei flaen wedyn i ystyried argyfwng yn y drefn wladol a grewyd gan y cynnwrf economaidd a chymdeithasol yn sgil diwydiannu a gyrhaeddodd ei benllanw yn ystod y Dirwasgiad Mawr yn y 1930au. Yn olaf mae'r modiwl yn gosod cyfnod olaf yr ymerodraethau Ewropeaidd a'r tyndra a ddatblygodd o'u mewn yng nghyd-destun y datblygiadau eraill hyn.

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd myfyrwyr yn datblygu, ymarfer a phrofi amrediad o sgiliau trosglwyddadwy. Trwy gydol y modiwl bydd gofyn i fyfyrwyr ymarfer a gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl. Mewn darlithiau, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando a llunio nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn cymryd rhan trwy roi cyflwyniad grwp a fydd yn datblygu gwaith tim. Bydd y rhain hefyd yn meithrin sgiliau gwrando, egluro a dadlau. Bydd y gwaith ysgrifennu traethodau yn gofyn am ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol, ysgrifennu a thechnoleg gwybodaeth, a bydd yr arholiad yn rhoi prawf ar sgiliau ysgrifennu cryno, yn ogystal a sgiliau trefnu syniadau'n eglur dan bwysau amser.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
R Overy. The Inter-War Crisis.
E Hobsbawm. Age of Extremes.