Cod y Modiwl GW36820  
Teitl y Modiwl DULLIAU YMCHWIL A DAMCANIAETH GYMDEITHASOL  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Graeme A M Davies  
Semester Semester 2  
Cyd-Ofynion IP36720 , IP37720  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   19 Awr (19 x 1 awr)  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   50%  
  Asesiad Semester   Traethodau: 3,000 o eiriau   50%  
  Arholiad Ailsefyll   Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics.    

Canlyniadau dysgu

Wth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:

- Dangos dealltwriaeth eglur o fethodolegau ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol
- Gwerthfawrogi a gwerthuso gwahanol ddamcaniaethau cymdeithasol a’r dulliau cymdeithasol sy’n gysylltiedig a hwy
- Adnabod a defnyddio amrediad o adnoddau ymchwil perthnasol
- Defnyddio dulliau a thechnegau academaidd safonol megis llunio llyfryddiaeth a defnyddio technegau troednodiadau’n gywir
- Llunio teitl at waith a pharatoi cynigion am gynllun ymchwil ar bwnc o'u dewis
- Cynllunio a chyflawni ymchwil annibynnol ar lefel sy'n ddigonol i gwblhau traethawd estynedig gan fyfyrwyr israddedig
- Deall, dadansoddi a gwerthuso erthyglau a llyfrau a ysgrifennwyd gan wyddonwyr cymdeithasol proffesiynol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i ddulliau ymchwil a theori gymdeithasol i fyfyrwyr gwleidyddiaeth a gwleidyddiaeth ryngwladol.

Nod

Amcan y modiwl hwn yw meithrin mewn myfyrwyr y sgiliau ysgrifennu, ymchwilio a chyflwyno sy’n angenrheidiol i gwblhau'r traethawd estynedig gorfodol, a datblygu dealltwriaeth o'r cynlluniau damcaniaethol sy'n fframwaith i ymchwil gymdeithasol. Bydd myfyrwyr, wrth astudio'r modd y mae gwahanol safbwyntiau damcaniaethol yn datblygu gwahanol strategaethau ymchwil, yn medru mynd i'r afael a chryfderau a gwendidau amryw safbwyntiau a'u methodolegau cysylltiedig. Yn y modiwl hwn byddwn yn astudio sut mae gwyddonwyr cymdeithasol yn llunio cwestiynau ymchwil, yn llunio damcaniaethau, yn llunio cynlluniau ymchwil, yn casglu data, ac yn dadansoddi’r data hyn. Mae'r modiwl yn cynnwys sesiynau ar sgiliau academaidd sylfaenol; theori gymdeithasol; dulliau a strategaethau ymchwil; defnydd a chamddefnydd o ystadegau ac ymchwil arolygon; dadansoddi gwleidyddol cymharol; dewis pwnc traethawd estynedig; safonau diwyg; methodoleg; a defnydd uwch o lyfrgelloedd a ffynonellau eraill yn Aberystwyth a thu hwnt.

Cynnwys

Iaith ymchwil gymdeithasol: Bod yn Feirniadol a Phroblem Gwrthrychedd; Beth yw Traethawd Estynedig?: Dewis Testun a Chynllun Ymchwil; Technegau Academaidd a Diwyg; Ysgrifennu Traethodau; Technegau Troednodiadau; yr Arolwg o’r Llenyddiaeth a Llunio LLyfryddiaeth; Llunio a chwblhau eich Cynllun Ymchwil; Adnoddau Ymchwil; Hanes, Astudiaethau Achos a Dadansoddi Cymharol; Gwleidyddiaeth a Moeseg Ymchwil; Ontoleg Gwrthrychau Cymdeithasol; Positifiaeth; Ystadegau a Dadansoddi Meintiol; Hermeniwteg; Theori Feirniadol; Ol-Foderniaeth; Realaeth Gymdeithasol.

Sgiliau trosglwyddadwy

Byd gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi amrediad eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i lunio prosiectau ymchwil, cyflawni prosiectau ymchwil, ac ysgrifennu canlyniadau prosiectau o'r fath. Trwy gydol y modiwl bydd myfyrwyr yn ymarfer ac yn gwella eu sgiliau ysgrifennu, darllen, deall a meddwl yn ogystal a dysgu i ddeall a defnyddio amrediad o sgiliau sy'n angenrheidiol mewn methodoleg yn y gwyddorau cymdeithasol.

10 Credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
G Delanty. Social Science: Beyond Constructivism and Realism.
T May. Social Research: Issues Methods and Process.