Cod y Modiwl GW38020  
Teitl y Modiwl ATHRONIAETH WLEIDYDDOL A MODERNIAETH  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Professor Howard L Williams  
Semester Semester 2  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   11 Awr (11 x 1 awr)  
  Seminarau / Tiwtorialau   11 Awr (11 x 1 awr)  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr   60%  
  Asesiad Semester   Traethawd o 3000 o eiriau   40%  
  Arholiad Ailsefyll   Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics.    

Canlyniadau dysgu

Nodau'r modiwl hwn yw:

- meithrin mewn myfyrwyr ddealltwriaeth o gryfderau a gwendidau dadleuon y meddylwyr hyn
- annog myfyrwyr i gloriannu'n feirniadol eu safbwyntiau eu hunain am wleidyddiaeth yng ngoleuni syniadau'r damcaniaethwyr pwysig hyn

Disgrifiad cryno

Parhad ac astudiaeth o'r materion a gyflwynwyd yn "Damcaniaeth Wleidyddol Fodern". Bydd y cwrs yn edrych yn arbennig ar yr Oleuedigaeth a'r syniad o foderniaeth.

Nod

Amcanion y modiwl hwn yw astudio ymhellach brif destunau syniadaeth wleidyddol fodern ddiweddar trwy ystyried yn fanwl brif weithiau gwleidyddol Marx, Hegel, Nietzsche, Lenin a Gramsci, gan ddatblygu ymwybyddiaeth o gymhlethdodau a phroblemau moderniaeth.

Cynnwys

Fe fydd y cwrs yn trafod y syniad o'r gymdeithas ddinesig yng waith Kant, Hegel, Marx a Gramsci. Trafodir yr amgyffrediad o foderniaeth yn arbennig yn Hegel a Nietzsche. Edrychir ar y cysylltiad rhwng moderniaeth a chyfalafiaeth yng ngwaith Marx a Lenin. Olrheinir dealltwriaeth feirniadol o'r themau hyn.

Sgiliau trosglwyddadwy

Ceir cyfle yn y cwrs hwn i ddablygu galluoedd meddyliol, llafar a chymdeithasol. Yn y darlithoedd rhoddir pwyslais ar ddeall, dilyn y trywydd cywir a chrynhoi syniadau. Gellir gwneud hyn trwy gymrydd nodiadau addas. Yn y seminarau rhoddir pwyslais yn arbennig ar ddatblygu dadleuon clir a rhesymol. Ceir y cyfle yn y seminarau hefyd i ddangos annibyniaeth barn a phwyso a mesur aeddfed. Ceisir yn olaf i ddysgu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol yn y seminarau

10 Credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Selected Works in One Volume - Karl Marx and Friedrich Engels - Lawrence and Wishart. Karl Marx 1818-1883..
H Williams/D Sullivan/G Matthews. Francis Fukuyama and The End of History.
Immanuel Kant. (1999) What is Enlightenment in Kant's Practical Philosophy. Cambridge University Press