Cod y Modiwl GW39220  
Teitl y Modiwl Y TRYDYDD BYD MEWN GWLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   16 Awr Nifer y Darlithiau 16 x1 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   8 Awr Seminarau. Nifer y Seminarau 8 x 1 awr  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   2 Awr 1 arholiad 2 awr   70%  
  Asesiad Semester   Traethodau: 1 traethawd 2,000 o eiriau   30%  
  Arholiad Ailsefyll   Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics.    

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y modiwl bydd myfyrwyr yn medru:

disgrifio prif ddamcaniaethau Datblygiad y Trydydd Byd
asesu'r effaith ar wledydd y Trydydd Byd o gynnwys eu heconom'ru yn yr economi fyd-eang
dadansoddi rol sefydliadau byd-eang ar ddatblygiad y Trydydd Byd
asesu safle'r Trydydd Byd yng ngwleidyddiaeth y byd yn ystod y Rhyfel Oer ac wedyn.

10 credydau ECTS

Nod

Mae'r modiwl hwn yn ymchwilio i'r newidiadau yn safle'r Trydydd Byd mewn gwleidyddiaeth fyd-eang ac o fewn astudiaeth Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Mae'r modiwl yn cychwyn gan ystyried imperialaeth a greodd ffiniau cenedlaethol y Trydydd Byd a'r integreiddio i gyfundrefn gyfalafol y byd,. Cymerwn frasolwg hefyd ar yr amryw ddamcaniaethau a safbwyntiau ar astudio'r Trydydd Byd. Wedyn bydd y modiwl yn ymchwilio i rol ac ymwneud y Trydydd Byd mewn masnach ryngwladol, gan gynnwys y posibiliadau ar gyfer masnach rhwng y De a'r De ac integreiddio rhanbarthol.

Fel y bydd myfyrwyr yn gyfarwydd a rol a dylanwad y Trydydd Byd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol mae'r modiwl hwn yn ymchwilio i rol y gwledydd hyn mewn amryw sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig. Mae'r modiwl hefyd yn ystyried materion sy'r ymwneud ag anymochredd [non-alignment] a threfn fyd-eang economaidd newydd.

Mae rhan olaf y modiwl yn trafod y Rhyfel Oer a'r ganlyniadau. Mae'r ymchwilio i'r modd yr ystyrid llawer o wledydd y Trydydd Byd fel gwerin i'r defnyddio mewn gem gwyddbwyll ideolegol gymhleth rhwng yr uwch-bŵerau. Mae'r trafod sut a pham y bu'r Gorllewin yn ystod y cyfnod hwn yn atgyfnerthu grym unbenaethiaid bwystfilaidd yn y Trydydd Byd yn enw gwrth-gomiwnyddiaeth, rhyddid a democratiaeth. Yn olaf mae'r canolbwyntio ar ganlyniadau a diwedd y Rhyfel Oer i'r Trydydd Byd.