Cod y Modiwl GW39420  
Teitl y Modiwl ETHOLIADAU YNG NGHYMRU  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dafydd Trystan-Davies  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   14 Awr (14 x 1 awr)  
  Sesiwn Ymarferol   6 Awr 3 x 2 awr (2 sesiwn cyfrifiadurol a un gweithdy cynllunio arolwg)  
  Seminarau / Tiwtorialau   8 Awr (8 x 1 awr)  
Dulliau Asesu Asesiad Semester   Traethawd: 2,500 o eiriau   40%  
  Asesiad Semester   Prosiect   30%  
  Asesiad Semester   Adroddiad Y Myfyriwr o 1,500 o eiriau   30%  
  Arholiad Ailsefyll   Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics.    

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau’r modiwl fe fydd myfyrwyr yn gallu:

i)   dadansoddi'n feirniadol y prif esboniadau a gynigir o batrymau pleidleisio yng Nghymru.
ii)   dadansoddi'n feirniadol hanes etholiadau yng Nghymru a thu hwnt.
iii) defnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i ddadansoddi canlyniadau arolwg barn.

Disgrifiad cryno

Fe gyflwynir myfyrwyr i'r prif ddamcaniaethau am ddulliau pleidleisio ac fe ystyrir eu heffeithiolrwydd yn y cyd-destun Cymreig.

Nod

Mae amcanion y modiwl yn cynnwys:-

- Rhoddi dealltwriaeth glir o wahanol esboniadau o batrymau pleidleisio yng Nghymru
- Rhoddi cyflwyniad i hanes etholiadau yng Nghymru a Phrydain.
- I gyflwyno myfyrwyr i waith holiadur a dadansoddiad data meintiol.
- I ddatblygu sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn tim trwy waith prosiect.

Cynnwys

Fe fydd y modiwl hon yn trafod y gwahanol esboniadau a gynigir o batrymau pleidleisio yng Nghymru. Bydd hefyd yn ystyried datblygiad hanesyddol etholiadau yng Nghymru a Phrydain. Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i ddulliau ymchwil meintiol er mwyn asesu agweddau o ymddygiad pobl wrth bleidleisio.

Sgiliau trosglwyddadwy

Fe fydd myfyrwyr yn datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy yn y modiwl hon. Yn ogystal a sgiliau cyfathrebu, dadansoddi ac ymchwilio a ddatblygir mewn modiwlau 'traddodiadol' fe gyflwynir myfyrwyr i sgiliau meiniol a sgiliau ysgrifennu o fath gwahanol. Yn benodol fe fydd cynllunio, cynnal a dadansoddi’r arolwg barn yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tim, rheoli prosiectau, ymchwil meintiol ac ysgrifennu adroddiadau yn seiliedig ar ddata cynradd.

10 credydau ECTS

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Paul Webb. The Modern British Party System.
Bridget Taylor & Katarina Thompson. Scotland and Wales: Nations Again.