Cod y Modiwl GWM1630  
Teitl y Modiwl DATGANOLI A CHYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Miss Rebecca M Jones  
Semester Semester 2  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   22 Awr 1 x 2 awr yn wythnosol am 10 wythnos  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   3 Awr   50%  
  Asesiad Semester   Traethodau: 1 x 3,000 o eiriau   50%  
  Arholiad Ailsefyll   Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics.    

Canlyniadau dysgu

Disgwylir y bydd pawb sy'n dilyn y modiwl yn:

- dirnad, deall a gwerthuso'r prif faterion a fu'n destunau trafod yng ngwleidyddiaeth Cymru er 1999
- datblygu dealltwriaeth drylwyr o strwythurau llywodraethol, y broses polisi, a'r cyd-destun cyfansoddiadol/gwleidyddol, yn y Gymru ddatganoledig
- dadansoddi'r berthynas rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a haenau llywodraethol eraill, a
- deall y datblygiadau yng Nghymru yng nghyd-destun datblygiadau ehangach ar y lefel Brydeinig ac Ewropeaidd.

Disgrifiad cryno

Y modiwl hwn fydd y cwrs craidd i fyfyrwyr sydd yn dilyn y cynllun 'S'. Prif nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i ddatblygiadau yng ngwleidyddiaeth Cymru ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999.

Nod

Prif amcan y modiwl yw cynnig astudiaeth gynhwysfawr o wleidyddiaeth yng Nghymru ar ol datganoli. Yr amcan yw datblygu dealltwriaeth fanwl o'r cytundeb datganoli yng Nghymru, a hybu dealltwriaeth o gysyniadau a chwestiynau damcaniaethol sydd yn berthnasol i ddatganoli yng Nghymru.

Cynnwys

Bydd y modiwl yn trafod gwahanol agweddau ar wleidyddiaeth Cymru ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ganolbwyntio ar strwythurau llywodraethol, y broses o lunio polisi ac agweddau cyfreithiol, cyn symud ymlaen i drafod rol y Cynulliad Cenedlaethol o fewn gwleidyddiaeth Cymru a gwleidyddiaeth y Deyrnas Gyfunol.
Bydd y seminarau yn trafod gwahanol agweddau ar wleidyddiaeth Cymru ers sefydlu'r Cynulliad gan ganolbwyntio ar y broses o gynllunio'r sefydliad newydd, seiliau cyfansoddiadol y Cynulliad, y strwythurau mewnol a'r fframwaith cyfreithiol. Bydd gweddill y seminarau yn canolbwyntio ar y broses creu polisi yng Nghymru cyn symud ymlaen i drafod y cysyniad o gynrychiolaeth a chyfreithlondeb. Yn olaf, bydd y modiwl yn gwerthuso perthynas y Cynulliad Cenedlaethol gyda sefydliadau llywodraethol a chymdeithasol y tu hwnt i Gymru.

Sgiliau trosglwyddadwy

Rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd oll o gymorth iddynt wrth geisio deall, dadansoddi a gwerthuso digwyddiadau gwleidyddol, manylder technolegol a chysyniadau damcaniaethol. Trwy gydol y modiwl anogir myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau darllen a dadansoddi, hogi eu sgiliau rheoli amser, ac i ddeall arwyddocad rhifau syml. Yn y seminarau ceir cyfle i wella sgiliau dadansoddiadol a chyfathrebu, yn ogystal a'r gallu i weithio fel rhan o dim. Ceir cyfle I ddatblygu'r sgiliau yma yn gyhoeddus trwy gyfrwng gweithdy a drefnwyd rhwng y myfyrwyr a gwleidyddion a gweision sifil yng Nghymru. Wrth baratoi traethodau caiff myfyrwyr eu hannog i ddatblygu eu gallu i ymchwilio'n annibynnol ymhellach, ac i wella eu sgiliau ysgrifennu a TG. Yn yr arholiadau, profir sgiliau dadansoddiadol ac ysgrifennu o fewn cyfyngder amser.

15 Credydau ECTS