Cod y Modiwl GWM6230  
Teitl y Modiwl YR ECONOMI GWLEIDYDDOL CYMREIG  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dafydd Trystan-Davies  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   Seminarau. Un seminar dwy awr pob wythnos  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   3 Awr   50%  
  Asesiad Semester   Traethodau:   50%  
  Arholiad Ailsefyll   Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics.    

Canlyniadau dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl fe fydd myfyrwyr yn gallu:

- dadansoddi'n feirniadol y prif damcaniaethol am feddwl am yr economi gwleidyddol Cymreig
- dadansoddi datblygiad perthnasau economaidd-wleidyddol o fewn Cymru dros y ganrif a hanner ddiwethaf
- gosod datblygiadau yng Nghymru yng nghyd-destun datblygiadau yn yr economi gwleidyddol rhyngwladol
- deall y gydberthynas rhwng datblygiadau materol a sut mae pobl yn deall y datblygiadau yma.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl yn astudio datblygiad yr Economi Wleidyddol Gymreig - yn ymarferol ac yn ddamcaniaethol dros y ganrif a hanner ddiwethaf.

Nod

Cynnwys amcanion y modiwl hon:

- Datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o'r prif ffrydiau ddamcaniaethol wrth feddwl am yr economi gwleidyddol Cymreig
- Datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o ddatblygiad perthnasau economaidd-wleidyddol o fewn Cymru dros y ganrif a hanner ddiwethaf   
- Gosod datblygiadau yng Nghymru yng nghyd-destun datblygiadau yn yr economi gwleidyddol rhyngwladol
- Deall y gydberthynas rhwng datblygiadau materol a sut mae pobl yn deall y datblygiadau yma.

Cynnwys

Elfen greiddiol wrth geisio deall Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yw datblygaid yr economic Cymreig. Fe fydd y modiwl yma felly yn datblygu gwybodaeth myfyrwyr am sefyllfa gyfredol yr economi Cymreig (yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol) a'I datblygiad dros y ganrif a hanner ddiwethaf.

Fe fydd y modiwl yn cychwyn trwy ddadansoddi sefyllfa yr economi gwleidyddol Cymreig ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd yn un o ranbarthau mwyaf deinamig y byd. Bydd yn astudio patrymau o ymyloldeb trwy flynyddoedd dirwasgiad yr 20au a'r 30au. Fe fydd yn astudio dylandwad cynllunio rhanbarthol y 50au a'r 60au a chymharu'r sefyllfa gyda agenda globaleiddio Awdurdod Datblygu Cymru yn chwarter olaf yr ugeinfed ganrif.

Fe fydd yn gosod y tueddiadau materol yma mewn persbectif damcaniaethol ehangach bydd yn ceisio olrhain y rhyngberthynas rhwng y materol a'r syniadol. Trwy hyn bydd amryw agwedd ar adeiladwaith yr economi gwleidyddol Cymreig yn cael eu hystyried.

Sgiliau trosglwyddadwy

Rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd oll o gymorth iddynt wrth geisio deall, dadansoddi a rhoi mynegiant i wahanol syniadau, cysyniadau a digwyddiadau. Trwy gydol y modiwl anogir myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau darllen a dadansoddi, i hogi eu sgiliau rheoli amser, ac i ddeall arwyddocad rhifau syml. Yn y darlithoedd ceir cyfle i ddatblygu sgiliau gwrando a dadansoddi yn ogystal a ysgrifennu nodiadau. Yn y seminarau ceir cyfle i wella sgiliau dadansoddiadol a chyfathrebu, ynghyd a'r gallu i weithio fel rhan o dim. Wrth baratoi traethodau caiff myfyrwyr eu hannog i ddatblygu ymhellach eu gallu i ymchwilio'n annibynnol, ac i wella eu sgiliau ysgrifennu a TG. Yn yr arholiadau profir sgiliau dadansoddiadol ac ysgrifennu yng nghysgod cyfyngder amser.