Cod y Modiwl HA10220  
Teitl y Modiwl Y DIWYLLIANT GWELEDOL A'R MEDDWL CYMREIG  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Peter Lord  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad Semester     60%  
  Asesiad Semester   Traethodau:   40%  

Disgrifiad cryno

Yr ol rhagfarn canrifoedd, diwylliant cerddorol a llenyddol sydd gan Gymru - sef, diwylliant heb ei fynegiant gweledol. Bydd y cwrs yn dadansoddi gwreiddau ac ystyr y rhagfarn hon ac yn datgelu'r cyfoeth gweledol sydd wedi ei guddio ganddi. Ystyrir yn fanwl bob agwedd o ddiwylliant gweledol Cymru, gan gynnwys gwaith arlunwyr gwlad, gwaith artistiaid academaidd, a delweddaeth boblogaidd. Rhoddir pwyslais ar ddehongli'r delweddau yng nghyd-destun ehangach datblygiad cymdeithasol a gwleidyddol Cymru. Gwneir cymariaethau a diwylliannau eraill a ystyrir yn ymylol i'r brif-ffrwd academaidd, a dadansoddir, hefyd, rhyngweithiad cymhleth delweddaeth Gymreig a chelfyddyd Seisnig.