Cod y Modiwl HA12120  
Teitl y Modiwl CYFLWYNO HANES  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Martyn J Powell  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Karen Stober  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   5 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr 5 seminar (2 awr yr un)  
Dulliau Asesu Asesiad Semester   ymarferiad précis: 1,000 gair (20%); un ymarferiad llyfryddiaethol: 1,500 gair (30%); un prosiect byr: 2,000 gair (50%)   100%  

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau’r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru

a)   gwneud ymarferion llyfryddiaethol syml ond angenrheidiol
b)   darllen deunydd hanesyddol eilaidd gan arfer rhywfaint o grebwyll beirniadol
c)   cydnabod yr angen i ddilyn arferion gorau wrth gynnal ymchwil
ch) mynd i’r afael â dadleuon hanesyddol a chynnig sylwadau ar briod rinweddau safiadau hanesyddol
d)   dangos eu bod wedi mynd i’r afael â deunydd eilaidd ar lafar (ni asesir y gwaith hwn) ac mewn   gwaith ysgrifenedig (asesedig)
dd) myfyrio’n feirniadol ar eu safbwyntiau hanesyddol eu hun ac, o astudio rhagor ar lefel gradd, ragweld pa   mor berthnasol fydd meddu ar ragor o sgiliau   

Disgrifiad cryno

Amcan y cwrs hwn yw rhoi i’r myfyrwyr hynny nad ydynt wedi astudio hanes ar lefel gradd rai o’r ‘sgiliau’ pwysicaf, er mor sylfaenol ydynt, y bydd eu hangen arnynt yn ystod eu gradd. Trwy gyfres o seminarau cyflwynir i’r myfyrwyr amrediad o sgiliau, technegau ac ymarferion fydd yn cynnwys elfennau sylfaenol sydd yn ymwneud ag astudiaethau israddedig yn ogystal ag arferion yr hanesydd. Bydd darlithoedd atodol yn ychwanegu at y dull hwn sy’n seiliedig ar sgiliau ac yn nodi’n fras y materion hynny sy’n ganolog i waith yr hanesydd.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
A. Northedge. (1990) The good study guide.
M. Abbott (gol). (1996) History skills: a student’s handbook.
R. Barnes. (1992) Successful Study for Degrees.
M. Stanford. (1994) A companion to the study of history.
B. Southgate. (1996) History, what and why?: ancient, modern, and postmodern perspectives.
J Clanchy & B Ballard (goln). (1992) How to write essays: a practical guide for students.
M. Reeves. (1980) Why History?.
J. Appleby, L. Hunt & M Jacobs (goln). (1994) Telling the truth about history.
J. Tosh. (1991) The pursuit of history. 2il.
G. R. Elton. (1969) The practice of history.
E.H. Carr. What is history?.