Cod y Modiwl HA37530  
Teitl y Modiwl DATBLYGYIAD MEDDYGAETH FODERN 1750-2000  
Blwyddyn Academaidd 2002/2003  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Steven Thompson  
Semester Semester 2  
Elfennau Anghymharus HY37530  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   18 Awr 18 x 1 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr 10 x 1 awr  
Dulliau Asesu Arholiad Semester   3 Awr   60%  
  Asesiad Semester   1 traethawd x 2,500 o eiriau, 1 traethawd x 4,000 o eiriau   40%  

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau’r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
1. Disgrifio ac asesu datblygiadau modern ym maes meddygaeth a gwasanaethau iechyd yn Ewrop a gogledd America;
2. Adolygu’n feirniadol gyd-destunau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y datblygiadau meddygol a’r gwasanaethau iechyd;
3. Gwerthuso effaith meddygaeth wyddonol ar fywydau pobl cyffredin;
4. Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol mewn ffordd feirniadol a deallus;
5. Trafod dadleuon hanesyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar.

Disgrifiad cryno

Mae’r cwrs hwn yn cynnig rhagymadrodd i hanes gwleidyddol, cymdeithasol a deallusol meddygaeth a gofal-iechyd gan ddilyn eu datblygiad yng Ngorllewin Ewrop ac America yn y cyfnod modern. Bydd y modiwl yn dangos sut y defnyddiodd meddygon confensiynol syniadau’r Dadeni o reswm, rhesymoledd a’r gwir gwyddonol yn eu brwydrau nhw gyda chyfundrefnau meddygol eraill, a sut yr enillodd y gyfundrefn hon gydnabyddiaeth swyddogol ac uchafiaeth wleidyddol a chymdeithasol. O fewn y modiwl hwn, bydd datblygiad y proffesiwn meddygol a gwybodaeth feddygol wedi ei leoli yng nghyd-destun tŵf y genedl-wladwriaeth fodern a diwydianeiddio a threfoli Prydain.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Anne Hardy. (2001) Health and Medicine in Britain since 1860. Basingstoke
H. Jones. (1994) Health and Society in Twentieth Century Britain. Llundain
C. Lawrence. (1994) Medicine in the Making of Modern Britain 1700-1920. Llundain
I. Loudon (gol.). (1997) Western Medicine. Rhydychen
R. Porter. (1997) The Greatest Benefit to Mankind. A Medical History of Humanity from Antiquity to the Present. Llundain
Andrew Wear (gol.). (1992) Medicine and Society, Historical Essays. Caergrawnt
W. F. Bynum and R. Porter (gol.). (1993) The Companion Encyclopedia of the History of Medicine. Llundain