Cod y Modiwl |
AD10310 |
Teitl y Modiwl |
SEICOLEG ADDYSG |
Blwyddyn Academaidd |
2003/2004 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Mr Iolo W Lewis |
Semester |
Semester 1 |
Manylion y cyrsiau |
Darlithoedd | 10 Awr |
|
Seminarau / Tiwtorialau | 5 Awr |
Dulliau Asesu |
Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad | 60% |
Asesiad Semester | Traethodau: Aseiniad: 2,000 o eiriau | 40% |
|
Canlyniadau dysgu
I. Cymhelliant Dynol
Ar ol astudio''r adran hon:
1. Byddwch yn medru egluro damcaniaeth Abraham Maslow ynglyn ag anghenion dynion a''i defnyddio i''ch diben eich hun fel myfyrwyr ynghyd â gweld ei gwerth i athrawon ysgol a choleg.
2. Byddwch yn medru rhoi amlinell o Theory Atgyfnerthu ac yn medru egluro sut y dylid ei defnyddio i wneud hyfforddiant mewn ysgol a choleg yn fwy effeithiol.
3. Byddwch yn medru egluro''r theori ynglyn â''r Angen i Gyflawni (need to Achieve) ac yn medru defnyddio agweddau ohoni i fod yn fwy effeithiol fel myfyrwyr.
4. Byddwch yn medru deall a defnyddio Theori Priodoli a''i defnyddio i egluro eich ymateb i lwyddiant
neu fethiant mewn rhyw orchwyl arbennig ac i feithrin dyfalbarhad ac agwedd gadarnhaol tuag at anawsterau.
II Dysgu a Chofio:
Wedi astudio''r adran hon
1. Byddwch yn medru rhoi amlinell o Theori Prosesu - Gwybodaeth o''r cof a''i defnyddio i fod yn fwy
effeithiol fel myfyrwyr.
2. Byddwch yn medru egluro gwahanol ddamcaniaethau ynglyn ag anghofio, disgrifio arbrofion ar anghofio ynghyd â''i canlyniadau a defnyddio''r wybodaeth i''ch budd eich hunain fel myfyrwyr.
3. Byddwch yn medru crynhoi canlyniadau arbrofion ar gaffael gwybodaeth a''i storio yn yr hir-gof a byddwch yn medru llunio cynghorion ar sail eich gwybodaeth i wneud myfyrwyr yn fwy effeithiol yn eu gwaith.
Disgrifiad cryno
Diben y cwrs hwn yw ystyried rhai o'r atebion a gynigir gan sawl theori seicoleg dysgu i'r cwestiwn "Sut mae plant yn dysgu?" Rhoddir sylw i agweddau seciolegol ar ddysgu: ymddygiadaeth, datblygiad gwyboddol, a theori prosesu gwybodaeth.
Nod
-
Rhoi arweiniad i'r modd y mae rhai syniadau ym maes Seicoleg yn cael eu defnyddio ym maes addysg.
-
Cymell myfyrwyr i ddefnyddio'r syniadau y maent yn eu hastudio ym maes Seicoleg Addysg i oleuo a dehongli eu profiadau yn yr ysgol ac yn y coleg.
-
Cymell myfyrwyr i ystyried sut y gallant ddefnyddio Seicoleg Addysg i fod yn fwy effeithiol fel myfyrwyr.
Cynnwys
I. Cymhelliant Dynol
1. Natur a nodweddion cymhelliant dynol.
2. Damcaniaeth Abraham Maslow ynglyn â Graddfa neu Hierarchi o Anghenion Dynol.
3. Agweddau o Theori Atgyfnerthu a'i defnydd mewn addysg.
4. Y Cymhelliant i gyflawni: arbrofion a wnaethpwyd a'r defnydd o'r canlyniadau mewn ysgol a choleg.
5. Theori Priodoli (Attribution Theory).
II. Dysgu a Chofio
1. Y Model Prosesu - Gwybodaeth o'r cof.
(The information - processing model of memory).
2. Damcaniaethau ynglyn ag anghofio ac arbrofion ar anghofio.
3. Arbrofion ar ddulliau o ddysgu (learning) a'r technegau sy'n gwneud dysgu'n fwy effeithiol.
Rhestr Ddarllen
Llyfrs
CHILD, Dennis (1986) Psychology and the Teacher
4th Ed.. Cassell
FONTANA, David (1988) Psychology for Teachers
2nd Ed.. Macmillan
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC