Cod y Modiwl | BG22920 | ||||||||||||||
Teitl y Modiwl | ADNABOD PLANHIGION AC ECOLEG CYMUNEDOL | ||||||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2003/2004 | ||||||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Dylan G Jones | ||||||||||||||
Semester | Semester 2 | ||||||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Yr Athro Peter Wathern | ||||||||||||||
Rhagofynion | BS10810 , BS11810 | ||||||||||||||
Manylion y cyrsiau | Darlithoedd | 20 Awr | |||||||||||||
Eraill | Gwaith maes: 1 x cwrs maes 5 diwrnod | ||||||||||||||
Dulliau Asesu |
|
Mae ail ran y modiwl yn ymdrin a newidiadau mewn poblogaethau dros amser. Nid ydynt yn aros yn llonydd, ond yn hytrach yn newid, a hynny yn aml mewn ffyrdd y mae modd (yn ol pob golwg) eu rhagweld. Gall y newidiadau gael eu gyrru gan ddilyniant y rhywogaethau sy?n bresennol (awtogenig) neu gan amodau amgylcheddol sy?n newid gydag amser (alogenig). Awgrymwyd y ddamcaniaeth `cymhareb adnoddau? fel peirianwaith ar gyfer llystyfiant uchafbwyntiol, ond gwelir diweddpwyntiau newid lluosol mewn llawer o ardaloedd.
Gall ffenomena dynol, a ffenomena naturiol, effeithio ar gymunedau planhigion. Gall anifeiliaid, wrth bori, ddangos lefel uchel o arbenigaeth wrth lunio cyfansoddiad cymunedau planhigion, tra bydd tan naturiol yn dileu biomas mewn llawer o dirweddau. Gall defnydd dynol olygu math syml o ddileu biomas, megis mewn systemau gwair; neu fel all fod yn ddetholus, gan ganolbwyntio ar rywogaethau penodol neu grwpiau penodol o unigolion (megis rhai sydd tua?r un maint a?i gilydd) ar gyfer rhyw ddefnydd arbennig, a thrwy hyn, bydd yn effeithio ar natur y gymuned.
Yn olaf, trafodir disgrifiadau o gymunedau planhigion a?u dosbarthiad gofodol, o ran dulliau rhifol (dosraniad a dosbarthiad) a dulliau llysgymdeithasegol disgrifiadol (wedi?u cynrychioli gan NVC).
Disgwylir i?r myfyrwyr ymgymryd a chwrs maes pum diwrnod i ddatblygu?r wybodaeth arbenigol ar gyfer adnabod rhywogaethau planhigion mewn ystod eang o gynefinoedd Cymreig gwahanol (e.e. twyni tywod, gwrychoedd, glaswelltiroedd mesotroffig a choetiroedd collddail). Disgwylir iddynt hefyd gwblhau darluniau gwyddonol manwl o wahanol rywogaethau a fydd yn cael eu casglu yn ystod y cwrs, gan amlygu nodweddion penodol a ddefnyddir ar gyfer dosbarthiad. Bydd y gwybodaeth a geid ynghylch dosbarthiad ym mhob safle yn cael ei datblygu ar ffurf arolygon ac yn cael ei dehongli yn ol y System Ddosbarthu Planhigion Genedlaethol. Yn ystod y ddau ddiwrnod olaf bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau wrth gwblhau prosiect byr ym maes dosbarthiad / ecoleg planhigion.
Bydd y cwrs yn cael ei redeg mewn cydweithrediad a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin (http://www.gardenofwales.org.uk) ac fe fydd yn cynnwys ymweliad a?r Ardd i ddysgu mwy am gymunedau planhigion yng Nghymru ac yn ardal Mor y Canoldir.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 5 FfCChC