Cod y Modiwl |
BG31110 |
Teitl y Modiwl |
ASTUDIAETHAU ARBENNIG ANRHYDEDD |
Blwyddyn Academaidd |
2003/2004 |
Cyd-gysylltydd y Modiwl |
Dr Ian M Scott |
Semester |
Semester 1 |
Staff Eraill sy'n Cyfrannu |
Dr Dylan G Jones, Dr Gareth W Griffith, Dr Iolo Ap Gwynn |
Manylion y cyrsiau |
Eraill | 100 awr bob semester, gan gynnwys amser ar gyfer ymchwil a gwaith pharatoi annibynnol. |
Disgrifiad cryno
Drwy gymryd rhan mewn Astudiaethau Arbennig Anrhydedd bydd myfyrwyr yn gallu astudio pwnc o?u dewis eu hunain, a hynny mewn dyfnder, a byddant yn cael cyfle i ddatblygu nifer o fedrau dadansoddol, trosglwyddadwy. Mae?r pynciau wedi?u dewis fel y bydd llawer o gyfle i gael profiad o astudiaeth uwch a dysgu wedi?i ganoli ar y myfyrwyr (perthnasol i?n holl gynlluniau gradd) ac i roi cysylltiad addysgol ag arbenigedd ymchwil y darlithwyr sy?n cymryd rhan. Darperir darlithoedd, seminarau a gweithdai fel y bo?n addas, ond bydd pwyslais ar ddysgu o safbwynt y myfyriwr ei hun. Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio eu deunydd eu hunain gan ddefnyddio ffynonellau o?r llyfrgell ac o gronfeydd data, archwilio cyhoeddiadau ymchwil uniongyrchol a?u hasesu?n feirniadol, a chynhyrchu adroddiadau gr?p ac adroddiadau unigol yn ogystal a gwneud cyflwyniadau ar lafar. Mae?n ofynnol i bob myfyriwr astudio un pwnc ym mhob semester, oni bai fod eu cynllun gradd yn dweud yn wahanol. Mae rhaid i bwnc gwaith y myfyriwr sy?n cael ei asesu mewn Astudiaethau Arbennig Anrhydedd fod yn wahanol i?r pwnc y mae?n ei ymchwilio ar gyfer ei Brosiect Flwyddyn Derfynol BG32930/BS32930.
Pynciau Semester 1:
(BS31110) Climate Change Biology
Genetics and Society
Information and Data Handling in Biochemistry
(BG31110) Bioleg a Chymdeithas
Pynciau Semester 2:
(BS31210) Topics in Marine Biology
The Mammals
Human Disease and Public Health
Gofynnir i bob myfyriwr astudio un pwnc ym mhob Semester, oni bai fod eu cynllun gradd yn dweud yn wahanol. Rhoddir dyddiadau cyflwyno aseiniadau yn ystod y dosbarthiadau pwnc.
-
Mae rhaid i bob myfyriwr sy?n cymryd un ai BS31110, BG31110 neu BS31210 fynd i?r sesiwn Astudiaethau Arbennig Anrhydedd cyntaf yn semester 1, lle y bydd gofyn i chi roi i mewn ffurflen sy?n cynnwys eich rhestr o ddewisiadau pwnc. Bydd y sesiwn cyntaf hwn yn cynnwys ymdriniaeth gyffredinol am y modiwlau Astudiaethau Arbennig Anrhydedd, gan gynnwys trafodaeth am chwilio?r llenyddiaeth a sut i baratoi cyflwyniadau a thraethodau. Dylech wedyn edrych ar eich ebost a/neu?r hysbysfwrdd Anrhydedd (ar lawr cyntaf Adeilad Edward Llwyd) yn nes ymlaen yn yr wythnos i gadarnhau cofrestriad a lleoliad eich pwnc. Y mae hefyd safle gwe ar gyfer Astudiaethau Arbennig Anrhydedd, y gellir cael hyd iddo ar http://users.aber.ac.uk/ias/hss/home neu drwy safle gwe Dogfennau Cyrsiau Myfyrwyr Sefydliad y Gwyddorau Biolegol. Mae mwy o gwybodaith am BG31110 yn y llyfr "Gwybodaeth i Fyfyrwyur Drydydd Blwyddyn".
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC