Cod y Modiwl BG32110  
Teitl y Modiwl CWRS MAES ECOLEG DDAEAROL, IWERDDON  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Gareth W Griffith  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Dylan G Jones  
Manylion y cyrsiau Eraill   Gwaith maes: 6.5 diwrnod (fis Medi, 2004)  
  Darlithoedd   6 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   1 x seminar 4 awr; 6 x dosbarth ymarferol 4 awr  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Gwaith cwrs 100% (adroddiadau ar brosiectau dosbarth a phrosiectau unigol, casgliad herbariwm, cyfres o brofion byr, cyflwyniad seminar ac asesiad o nodlyfr maes). Yr herbariwm a?r nodlyfr maes i gael eu cyflwyno ar ddiwedd y cwrs. Cynhelir sesiwn seminar yn Semester 1. Adroddiadau prosiect i gael eu cyflwyno erbyn 25 Hydref 2004.  
Asesiad Ailsefyll Traethawd estynedig ac arholiad llafar. 

Canlyniadau dysgu

Ar ol dilyn y modiwl bydd myfyrwyr yn gallu:
? gwahaniaethu rhwng prif gymunedau planhigol yr ardal.
? adnabod prif rywogaethau?r planhigion uwch, mwsoglau, cennau a ffyngau.
? deall rol anifeiliaid mewn rheoli tyfiant a dadelfeniad planhigion.

Nod

Prif amcan y modiwl hwn yw cyflwyno i fyfyrwyr brif brosesau ecolegol planhigion, anifeiliaid a dadelfeniad o fewn cymunedau calchfaen ar y Burren. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried sut mae llystyfiant a phriddoedd wedi datblygu ers diwedd yr Oes Ia Dyfneintaidd, ryw 10,000 o flynyddoedd yn ol. Archwilir cymunedau planhigion ac anifeiliaid i weld sut y gellir ymestyn y system Dosbarthiad Llystyfiant Cenedlaethol (National Vegetation Classification, NVC) ar gyfer Prydain Fawr i ddiffinio cymunedau planhigion yn Iwerddon. Archwilir nifer o fathau o olyniaeth ecolegol a chynhyrchir modelau i ddangos cydberthynasau rhwng y cymunedau gwahanol ac oddi mewn iddynt, yn ogystal a?r paramedrau microamgylcheddol cysylltiedig. Ystyrir hefyd y gwahanol ffyrdd y mae dulliau ffermio modern wedi newid y tirwedd, a?r strategaethau mwyaf priodol ar gyfer diogelu?r enghreifftiau gorau o dirweddau Gwyddelig goroesol ynghyd a?u hystod unigryw o gydberthynasau planhigol. Bydd casglu a dadansoddi data o?r maes, a?u cynnwys mewn cyfres o adroddiadau a fydd yn cael eu hasesu, yn rhan fawr o?r modiwl. Dysgir y modiwl yng Nghanolfan Maes Prifysgol Galway, Carron, Co. Clare.

Elfen fawr o?r modiwl fydd archwilio?r ffactorau hynny sy?n cyfyngu ar ledaeniad detholiad o blanhigion uwch, anifeiliaid, mwsoglau, cennau a ffyngau. Bydd hyn yn cynnwys astudiaeth ar ffactorau microhinsoddol, priodweddau isbriddoedd a rhyngweithiadau troffig. Bydd yr olaf o?r rhain yn ymdrin a chystadleuaeth mewn perthynas a chystadleuaeth am olau, d?r a maetholion.

Cynnwys

? Archwiliad o gymunedau planhigol y Burren gyda phwyslais ar gyfansoddiad ac ecoleg:
a) cymunedau calchbalmant
b) cymunedau celli
c) cymunedau glaswelltir calchaidd, rhostir, hafn a chors;
? Astudiaeth ar gytrefu ac olyniaeth mewn celli ac ar galchbalmantau. Archwilir datblygiad cymunedau planhigol sy?n gysylltiedig a nodweddion ar y palmantau hyn (pyllau toddiad, pantiau, cornentydd, rhigolau a greiciau) mewn perthynas a ffactorau microdopograffigol a microhinsoddol. Bydd hyn yn cynnwys archwiliad o brif nodweddion morffolegol ac atgynhyrchiol y brif rywogaethau i ddarganfod sut y gallent fod yn dra addasedig i?w cynefinoedd.
? Cydberthynasau rhwng mathau gwahanol o briddoedd a chymunedau planhigion.
? Rol anifeiliaid mewn dadelfeniad a llysysoriaeth.
? Ecoleg ffyngau saprotroffig a mycorhisal.
? Materion cadwraeth a rheolaeth o fewn Parc Cenedlaethol y Burren.
? Cyflwyniad i micro-lysddaearyddiaeth.
? Prosiect ar gymuned neu fosaic llystyfiant penodol, neu gr?p penodol o blanhigion.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Grime, J.P., Hodgson, J.G. & Hunt, R. (1996) Comparative plant ecology: a functional approach to common British species. London: Chapman & Hall
Kent, M. & Coker, P. (1992) Vegetation description and analysis. London: Belhaven Press.
Nelson, E.C. (1991) The Burren: a companion to the wildflowers of an Irish limestone wilderness Boethius Press & The Conservancy of the Burren
Rodwell, J.S. ( (1991-9) British Plant Communities Vols. 1 and 3 Cambridge University Press

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC