Cod y Modiwl BG32930  
Teitl y Modiwl PROSIECT  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Glyn Jenkins  
Semester Semester 2  

Disgrifiad cryno

Mae pob myfyriwr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol yn ymgymryd a phrosiect ymchwil 30 credyd ei werth yn y flwyddyn olaf. Mae?r gwaith yn cael ei rannu dros semesterau 1 a 2.

Erbyn diwedd blwyddyn 2, dylech fod wedi cael enw?ch prosiect, enw?ch goruchwyliwr a wedi cyflwyno crynodeb byr o?ch prosiect i gael ei gymeradwyo. Os nad yw hyn wedi digwydd, cysylltwch a Dr. Glyn Jenkins, cyd-drefnydd y modiwl, yn syth. Bydd natur y prosiect yn adlewyrchu diddordebau myfyrwyr unigol ac felly disgwylir amrywiaeth o ran pwyslais y gwaith, er y bydd gan bob prosiect yr un rheolau i?w dilyn a?r un amcanion. Bydd llawer o brosiectau?n seiliedig ar ymchwil yn y labordy neu yn y maes, tra bydd eraill yn canolbwyntio ar adolygiad beirniadol o ddeunydd sydd wedi?i gyhoeddi, ar ddadansoddiad o ddata cyhoeddedig neu heb ei gyhoeddi neu fodelu cyfrifiadurol. Serch hynny, bydd pob prosiect yn profi gallu?r myfyriwr i ffurfio rhagdybiaethau, i ddadansoddi data ac i ddarllen ac asesu llenyddiaeth berthnasol. Nid yw prosiectau sy?n hollol ddisgrifiadol, na rhai sydd ddim ond yn ailadrodd gwaith cyhoeddedig, yn dderbyniol.

AMCANION DYSGU

Bydd y prosiect yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd a gwaith ymchwil annibynnol o?u dewis eu hunain o dan oruchwyliaeth un, neu fwy nag un, aelod o?r staff. Gwneir hyn mewn amgylchedd ymchwil er mwyn meithrin agwedd feirniadol tuag at gasglu, cofnodi ac asesu data. Disgwylir i fyfyrwyr:

? ddewis a diffinio testun addas at ymchwil a pharatoi braslun ymchwil;
? fagu technegau chwilota?r llenyddiaeth a?u defnyddio ar gyfer y prosiect;
? gynllunio arbrofion / gwneud arsylwadau / asesu?r llenyddiaeth yn feirniadol, gyda?r amcan o gyfrannu at gyfanswm yr wybodaeth yn y maes ymchwil perthnasol;
? ddadansoddi a chyflwyno data ac arsylwadau a?u trafod mewn perthynas a gwybodaeth bresennol yn y maes;
? dynnu sylw at gwestiynau sydd heb eu hateb ac at bwyntiau dadleuol o fewn maes yr ymchwil a chynnig awgrymiadau ar gyfer ymchwil pellach;
? ddatblygu medrau ysgrifennu gwyddonol a chyflwyno adroddiadau darluniedig llafar gan ddefnyddio?r medrau technoleg gwybodaeth sydd wedi?u magu yn ystod y cwrs;
? gyrraedd rhyw fesur o annibyniaeth yn eu gwaith.

GORUCHWYLIAETH

Bydd lefel y cyswllt rhwng myfyrwyr a goruchwylwyr yn ystod gwaith prosiect yn amrywio ar draws disgyblaethau gwahanol yn y Sefydliad ond mae?n ofynnol i bob myfyriwr gadw cysylltiad rheolaidd a?r goruchwyliwr. Eich cyfrifoldeb chi yw hyn. Dylech nodi fod rhaid i chi gyfarfod a?r goruchwyliwr o leiaf unwaith bob pythefnos yn ystod y semesterau i drafod sut mae?ch gwaith yn symud ymlaen. Cewch wneud apwyntiad i weld eich goruchwyliwr ar unrhyw adeg, wrth gwrs.

Bydd y Cyfarwyddwr Dysgu yn cael ei hysbysu ynghylch unrhyw fyfyrwyr sy?n methu a chadw cysylltiad rheolaidd a?r Goruchwyliwr.

Cofiwch, mae eich goruchwyliwr prosiect hefyd yn diwtor personol i chi ac fe ddylech drafod ag ef, neu hi, unrhyw bryderon a allai fod yn effeithio ar eich gwaith.

CYFLWYNO?R PROSIECT

Dylech roi copi bras o?r prosiect i?ch goruchwyliwr erbyn dyddiad a gytunir arno. Dyma?ch cyfle i dderbyn cyngor yngl?n a?r ysgrifennu a chyflwyniad. Peidiwch a cholli?r cyfle!

Rhaid cyflwyno?r prosiect gorffenedig i?r Swyddfa Gyffredin, Adeilad Cledwyn, erbyn 4.00 y.h. Dydd Mercher, 21 Ebrill, 2004.

Fe?ch atgoffir y bydd colli?r dyddiad cau yn golygu colli?r marciau i gyd ar gyfer y prosiect. Dim ond y Cyfarwyddwr a all roi caniatad cael estyniad, a rhaid gwneud cais ysgrifenedig iddo gan amlinellu?n glir y rhesymau dros ofyn am yr estyniad. Nodwch, os gwelwch yn dda, na chaniateir estyniadau ond mewn sefyllfaoedd eithriadol.

Cedwir pob adroddiad prosiect gan y Sefydliad. Fe?ch cynghorir felly i greu copi i?w gadw i?ch defnydd personol.

SEMINAR Y PROSIECT

Byddwch yn cyflwyno eich prosiect mewn ffurf seminar ymchwil i gynulleidfa a fydd yn cynnwys myfyrwyr eraill ac aelodau?r staff. Dylai?r cyflwyniad gymryd 10 munud gyda 5 munud ychwanegol ar gyfer cwestiynau. Disgwylir i?r cyflwyniad fod ar ffurf PowerPoint 2000 ac iddo gael ei gyflwyno gyda thafluniad gwybodaeth (data projection). Cyhoeddir dyddiadau, amserau a lleoliadau?r cyflwyniadau yn ystod tymor y Pasg.

ASESU

Y mae tair elfen i asesiad y prosiect:

i) Ymddygiad y myfyriwr 15% (dyfernir gan y goruchwyliwr)
ii) Y traethawd   75% (gan y goruchwyliwr & ail aseswr)
iii) Seminar   10% (gan y goruchwyliwr & ail aseswr)

Asesir y prosiect yn ol y canllawiau ar y tudalennau dilynol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC