Cod y Modiwl CY10310  
Teitl y Modiwl CYMRAEG DDOE A HEDDIW 1 (IAITH GYNTAF)  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Marged E Haycock  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Marged E Haycock  
Cyd-Ofynion I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg: CY10110,CY10210, CY10410; i'r rhai na fyn hynny: CY10110 neu CY10210 neu CY10410  
Elfennau Anghymharus CY10510, CY10610,CY10710, CY10810, CY12220  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   22 Awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   6 Awr Seminarau.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr  70%
Asesiad Semester Aseiniad: Traethawd neu Ymarferion  30%

Canlyniadau dysgu

1. Byddwch yn gyfarwydd â hanfodion y prif ddulliau o astudio iaith, gan gynnwys tafodieitheg, ieitheg hanesyddol, a   chymdeithaseg iaith.
2. Byddwch yn meddu ar wybodaeth sylfaenol am ddatblygiad yr iaith Gymraeg o''r famiaith Geltaidd, ac am ei pherthynas â''r ieithoedd Celtaidd eraill, ac âr ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill.
3. Byddwch yn meddu ar wybodaeth sylfaenol am ddatblygiad yr iaith Gymraeg o''r bumed/chweched ganrif hyd heddiw.
   
4. Byddwch wedi ennill profiad o weithio''n annibynnol ar brosiect gwreiddiol ym maes tafodieitheg, ac o gywain gwybodaeth oddi ar lafar gwlad a''i dadansoddi.
5. Byddwch wedi ymgynefino â hanfodion astudio enwau lleoedd, ac fe fyddwch yn gyfarwydd â nifer o''r elfennau mwyaf cyffredin a geir yn enwau lleoedd Cymru.
6. Byddwch yn gyfarwydd â''r prif broblemau sy''n bygwth bodolaeth yr iaith Gymraeg, ac yn gallu trafod yr ymateb i''r problemau hynny.

Disgrifiad cryno

Cyfres o ddarlithoedd ar wahanol agweddau ar hanes a theithi'r iaith Gymraeg. Trafodir nodweddion tafodieithoedd y Gymraeg, enwau lleoedd, enwau priod a nifer o bynciau eraill.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC