Cod y Modiwl CY34120  
Teitl y Modiwl YSGRIFENNU CREADIGOL  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Huw M Edwards  
Semester Ar gael yn semester 1 a 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mr Mihangel I Morgan  
Rhagofynion CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810, Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   22 Awr Seminarau. + cyfarwyddyd unigol yn o^l y galw  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Asesiad Parhaus: Cyfrol o lenyddiaeth wreiddiol, a arholir gan 3 aelod o'r staff (i'w chyflwyno erbyn diwedd Semester 1, lefel3)  100%

Canlyniadau dysgu

Ar ôl dilyn y modiwl hwn:
1. Byddwch wedi derbyn hyfforddiant ar wahanol fathau o ysgrifennu, yn farddoniaeth, yn rhyddiaith greadigol ac yn sgriptio.
2. Byddwch wedi arbrofi â''r ffurfiau hyn er mwyn datblygu eich doniau creadigol cynhenid.
3. Byddwch wedi elwa ar drafod eich gwaith yn adeiladol gyda thiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr.
4. Byddwch wedi cyflwyno cyfrol o waith gwreiddiol wedi ei golygu, ei theipio a''i rhwymo.

Disgrifiad cryno

Cynigir hyfforddiant ar wahanol fathau o ysgrifennu, er mwyn meithrin a disgyblu doniau creadigol cynhenid. Canolbwyntir ar ysgrifennu a dadansoddi barddoniaeth a rhyddiaith, ar addasu gweithiau ar gyfer radio a theledu, ac ar baratoi sgriptiau i'w darlledu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC