Cod y Modiwl DA10910  
Teitl y Modiwl METHODOLEG MAES AMGYLCHEDDOL  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhys A Jones  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Aled P Rowlands  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   Dysgir y modiwl ar chwe diwrnod maes dros dri phenwythnos. Bydd yn cyfuno elfennau darlith, seminarau a dosbarthiadau ymarferol.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Adroddiad ar brosiect estynedyg. Bydd gofyn i fyfyrwir gyflwyno adroddiad 2500 o eiriau ar brosiect unigol syn ymhelaethu ar thema drafodir ar un or diwrnodau maes, trwy ddefynyddio data eilaidd, deunydd ar y We a gwaith darllen cefndir perthnasol. Penderfynir ar pwnc y prosiect gan myfyrwir ar y cyd ar staff darlithio.50%
Asesiad Semester Adroddiadau Maes. Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno 6 adroddiad maes yn cryno, un ar bob un or diwrnodau maes. Bydd pob adroddiad maes yn cyfrannu ir marc terfynol.30%
Asesiad Semester Cyflwyniadau llafar grwp. Yn seiledig ar waith prosiect a wnaed ar bob un or diwrnodau maes. Cyfrifir y marc terfynol ar sail cymedr y marciau a geir am bob un or chwe chyflwyniad.20%
Asesiad Ailsefyll Ailsefyll elfennau a fethwyd. Ailsefyll oherwydd peidio a chyflwyno gawaith ynghlwm wrth ddiwrnodau maes a gwblhawyd, cwblhaur elfen(nau) sydd ar goll. Ailsefyll oherwydd peidio a chwblhau diwrnod maes neu absenoldeb o ddiwrnod maes, trwy gwblhau traethawd 1500 o eiriau ar bwnc syn gysylltiedig a themar diwrnod maes a gollwyd.100%

Canlyniadau dysgu

Wrth gwblhau''r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
  1. Trafod addasrwydd yr amryw dduliau a thechnegau sy''n allweddol i waith maes daearyddiaeth, yr amgylchedd a defnyddio tir;
  2. Defnyddio technegau penodol er mwyn casglu gwybodaeth yn y maes;
  3. Dadansoddi a chyflwyno canlyniadau gwaith maes;
  4. Deall, dehongli a gwerthuso data maes;
  5. Cyflwyno canlyniadau ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn cyflwyno egwyddorion ac arferion technegau allweddol a ddefnyddir mewn gwaith maes yn nisgyblaethau daearyddiaeth, astudiaethau amgylcheddol ac astudiaethau defnyddio tir. Mae'n cynnig profiad o ddefnyddio amryw dduliau a thechnegau gwaith maes er mwyn casglu a dadansoddi gwybodaeth mewn perthynas a daearyddiaeth, yr amgylchedd a defnyddio tir. Dysgir y modiwl ar y cyd a staff o Brifysgol Cymru, Bangor, a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Dysgir myfyrwyr o'r ddau sefydliad hyn hefyd ar y modiwl. Dysgir y modiwl ar dri phenwythnos (dau ddiwrnod bob penwythnos); un yr un yn Aberystwyth, Bangor a Chaerfyrddin.

Dyma'r themau a drafodir yn yr amryw brosiectau:

Aberystwyth
Gwerthuso biomas coetiroedd (Aled Rowlands)
Daearyddiaethau eithrio yn Aberystwyth (Rhys Jones)

Bangor
Gwerthuso defnydd tir yng ngogledd-orllewin Cymru: ffactorau ffisegol a dynol (Ioan ap Dewi)
Cymunedau gwledig Cymru: parhad a newid (Geraint George)

Caerfyrddin
Datblygiad gorlifdiroedd: doe a heddiw Dyfed Elis-Gruffydd)
Gwrthdaro yng nghefn gwlad: achos ffermydd gwynt (Dai Rogers)

Nod

Amcan y modiwl hwn yw: (1) Cyflwyno a datblygu egwyddorion ac arferion technegau allweddol gwaith maes yn nisgyblaethau daearyddiaeth, astudiaethau amgylcheddol ac astudiaethau defnyddio tir; (2) cynnig profiad o ddefnyddio amryw ddulliau a thechnegau gwaith maes er mwyn casglu gwybodaeth mew perthynas a daearyddiaeth, yr amgylchedd a defnyddio tir; (3) rhoi hyfforddiant wrth ddadansoddi a chyflwyno data; (4) rhoi hwb i allu myfyrwyr i ddehongli data maes; (5) cynnig profiad a hyfforddiant wrth roi cyflwyniadau ar lafar ac ar bapur.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
** Testun A Argymhellwyd
Cloke, P. (2000) 'Place' in P. Cloke et al (ed) Introducing Human Geographies Arnold ISBN 034069193X
Cresswell, T. (2000) 'Place' in P. Cloke et al (ed) Introducing Human Geographies Arnold ISBN 034069193X
Flowerdew, R. & Martin, D. (ed) (1997) Methods in Human Geography Pearson Education ISBN 0582289734
Goudie, A. (1994) Geomorphological Techniques Routledge ISBN 0415119391
Hoggart, K. et al (2002) Researching Human Geography Arnold ISBN 0340676744
Hughes, G. (1996) Welsh Agriculture into the New Millennium Welsh Institute of Rural Studies ISBN 090212496X

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC