Cod y Modiwl DA30320  
Teitl y Modiwl IWERDDON  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Semester Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod  
Blwyddyn nesaf y cynigir N/A  
Semester nesaf y cynigir N/A  
Manylion y cyrsiau Darlithoedd   Rhif a pharhad y darlithiau: 8 o ddarlithiau (2 awr yr un ar yr amserlen)  
  Seminarau / Tiwtorialau   Rhif a pharhad y seminarau/tiwtorialau: 3 seminar (2 awr yr un ar yr amserlen) yn seiliedig ar draethodau, darllen penodol a rhaglenni fideo. Cyfanswm o 20 o oriau cyswllt.  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Arholiad Semester2 Awr Papur arholiad50%
Asesiad Semester Traethodau: Dau draethawd. Cyflwynir y traethodau erbyn diwedd wythnosau 6 a 11. Os cyflwynir y traethodau yn hwyr bydd y marc yn gostwng 5% bob dydd. Y mae angen cwblhaur holl elfennau er mwyn pasior modiwl a bydd y marc terfynol yn gyfuniad or holl elfennau.50%
Asesiad Ailsefyll Ail-sefyll: Os methir y modiwl, bydd cyfle i ail-sefyll arholiad (50%) ar traethodau wedi eu hasesu (50%). Os oedd rhewsm dilys (meddygol) dros beidio a chyflwynor gwaith bydd cyfle i gyflwynor elfen(nau) coll am yr ystod cyfan o farciau ar y dyddiad penodol yng nghyfnod yr Arholiadau Atodol. Os methwyd y modiwl oherwydd marciau isel neu am na chyflwynwyd elfen or gwaith, bydd yn rhaid ailsefyll yr holl elfennau (os cafwyd <40% ynddynt i gyd), neu ailgyflwyno neu ailsefyll yr elfen a fethwyd (arholiad neu aseiniad er mwyn cael marc uchafswm o 40% yn y modiwl). Rhaid ir traethodau a ailgyflwynwyd ymwneud a phynciau gwahanol ir rhai a gwblhawyd y tro cyntaf. 

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y modiwl y disgwyl yw y bydd myfyrwyr yn medru :-

Nod

Hybu dealltwriaeth o ddatblygiad cyfoes yng ngyd-destun (i) y fframwaith Ewropeaidd a (ii) hanes gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol y wlad.

Cynnwys

Gwneir ymgais yn y cwrs hwn i ddadansoddi y prosesau sydd ar waith yn ffurfio patrymau cymdeithasol ac economaidd cyfoes yng ngweriniaeth Iwerddon. Rhoddir pwyslais arbennig ar faterion cynllunio, a'u dylanwad ar yr ardaloedd gwledig gyda sylw penodol i orllewin y wlad ac i ardaloedd y Gaeltacht. Dyma fydd y pynciau i'w trafod:

1. Rhagarweiniad: themau mewn daearyddiaeth hanesyddol a diwylliannol.

2. Cynllunio cenedlaethol: pwyslais arbennig ar amddifadedd, poblogaeth a dadansoddiadau strwythurol.

3. Y dimensiwn rhanbarthol: gwahaniaethau rhanbarthol, cynllunio rhanbarthol, canolfannau twf, Dulyn.

4. Cynllunio dros yr ardaloedd gwledig, gyda phwyslais ar yr elfen gydweithredol

5. Cynllunio yn ardaloedd y Gaeltacht, gyda phwyslais arbennig ar bwysigrwydd yr iaith Wyddeleg o fewn y fframwaith cynllunio.

6. Twristiaeth mewn ardaloedd gwledig.

7. Yr Iwerddon yn ei chysylltiadau Ewropeaidd: dylanwad polisiau yr Undeb Ewropeaidd yn ymwneud yn benodol ag amaethyddiaeth a datblygiad rhanbarthol.

8. Syniadau am ddatblygiad yn yr Iwerddon.

Rhestr Ddarllen

Llyfrs
Ardagh, J (1995) Ireland and the Irish London: Penguin
Foster, R.F. (1988) Modern Ireland 1600 - 1972 London: Penguin.
Graham, B.J. and Proudfoot, L.J. (eds) (1993) An Historical Geography of Ireland Academic Press.
Graham, B.J. (ed) (1997) In Search of Ireland: a Cultural Geography Routledge
Hussey, G (1995) Ireland Today London: Penguin.
Walley, P Ireland in the 21st Century Mercier Press

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC