Cod y Modiwl |
DA30820 |
Teitl y Modiwl |
GLOBALEIDDIO A CHWILFRIWIAD |
Blwyddyn Academaidd |
2003/2004 |
Semester |
Semester 2 |
Rhagofynion |
DA10110 , DA10210 |
Manylion y cyrsiau |
Darlithoedd | 20 Awr 10 x 2 awr |
|
Seminarau / Tiwtorialau | 4 Awr |
Dulliau Asesu |
Assessment Type | Assessment Length/Details | Proportion |
Arholiad Semester | 2 Awr | 75% |
Asesiad Semester | Aseiniad: Astudiaeth annibynnol o 2,000 o eiriau iw gyflwyno yn Wythnos 8 | 25% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Papur ysgrifenedig | 100% |
|
Canlyniadau dysgu
(i) defnyddio llenyddiaeth rhyngddisgyblaethol er mwyn dadansoddi pynciau yn ymwneud a newidiadau byd-eang, globaleiddio a chwilfriwiad, yn nhermau damcaniaethau ac astudiaethau achos.
(ii) deall natur a rol globaleiddio yn ei gyd-destun hanesyddol.
(iii) datblygu sgilliau dadansoddi o wahanol mathau trwy ddefnydd o lenyddiaeth, ffynonellau ystadegol ac astudiaeth annibynnol.
Nod
(i) ystyriaeth o'r newidiadau byd-eang diweddaraf gan ddefnyddio dulliau damcaniaethol ac astudiaethau achos.
(ii) ymwneud a'r ddadl globaleiddio.
(iii) deall y cyfyngiadau ar globaleiddio, anghyfartaledd prosesau cyfoes ynghyd a phwysigrwydd y 'lleol'.
Cynnwys
Pwrpas y modiwl yw cyflwyno dadleuon cyfoes am globaleiddio a chwilfriwiad. Pwysleisir nifer o themau allweddol, sef
-
globaleiddio yn ei gysylltiadau hanesyddol
-
pa mor fyd eang yw globaleiddio: patrymau daearyddol anghyfartal
-
cyfyngiadau globaleiddio
-
gwrthwynebiad i globaleiddio
-
globaleiddio oddi uchod ac oddi isod
-
lleolelddio yn ei gysylltiadau byd eang
Trafodir y themau hyn trwy ystyried nifer o astudiaethau achos (gweler Darlithoedd 7, 8, 9 a 10 isod)
Pynciau'r darlithoedd:
-
Beth yw globaleiddio/nid yw globaleiddio a chwilfriwiad yn gwrthddweud eu gilydd
-
Globaleiddio economaidd
-
Globaleiddio diwylliannol
-
Globaleiddio gwleidyddol
-
Cyfyngiadau ar globaleiddio/pwysigrwydd y lleol
-
Ymwrthod a globaleiddio/globaleiddio oddi isod
-
Astudiaeth Achos I: tiodi a dyled yng ngwledydd Is Sahara Affrica
-
Astudiaeth Achos II: mudo, ffoaduriaid, diogelwch ac iawnderau dynol
-
Astudiaeth Achos III: troseddau - masnach cyffuriau a golchi arian
-
Astudiaeth Achos IV: crefydd - ffwndamentaliaeth ac actifiaeth crefyddol
Rhestr Ddarllen
Llyfrs
Johnston, R.J. ac eraill (eds) (1998) Geographies of Global Change
Oxford: Blackwell
Dicken, P. (1998) Global Shift: Transforming the World Economy
Paul Chapman Publishing, London
Held, D. ac eraill (1999) Global Transformations
Polity Press, Cambridge
Held, D. a McGrew, A. (eds) (2000) The Global Transformations Reader
Polity Press, Cambridge
Short, J.R. (2001) Global Dimensions
Reaktion Books, London
Nodau
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC