Cod y Modiwl DA39510  
Teitl y Modiwl TRAETHAWD PROSIECT SEMESTER 2  
Blwyddyn Academaidd 2003/2004  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Paul A Brewer  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Rhys A Jones  
Elfennau Anghymharus GG39510  
Dulliau Asesu
Assessment TypeAssessment Length/DetailsProportion
Asesiad Semester Gwaith Prosiect: Prosiect 5,000 o eiriau. Mae ail-eistedd yn galw am ail-gyflwynor prosiect.100%

Canlyniadau dysgu

Mae modiwl y traethawd prosiect yn cynnig i fyfyrwyr y cyfle i estyn y gyfran o waith cwrs yn sylweddol ar gyfer gradd trwy ddatblygu themau a phroblemau a gyflwynwyd mewn modiwlau o ddarlithiau. Byddant, yn ogystal a rhoi''r cyfle iddynt ddatblygu''r themau a''r problemau hyn mewn modd diriaethol a beirniadol, yn cynnig y cyfle i ddatblygu medrau mwy arbenigol wrth drafod cysyniadau a thechnegau penodol, ac wrth gael ''hyfforddiant trwy wneud'' wrth drafod, trefnu a chynhyrchu gwaith prosiect.

Nod

Trwy'r modiwl hwn mae gan fyfyrwyr y moddion i astudio'n ddwfn testun neu thema sydd o ddiddordeb iddynt. Rhaid i'r traethawd prosiect fod yn berthnasol i fodiwl wedi ei ddarlithio.

Cynnwys

Caniateir i fyfyrwyr droi hyd at ddau fodiwl unigol (10 credit) lefel 3 yn fodiwlau dwbl trwy ysgrifennu traethawd prosiect cysylltiedig, ond gellir dewis gwneud hyn ar gyfer un modiwl yn unig yn ystod yr ail flwyddynac, yn y dryedd flwyddyn, un modiwl i bob semester. Rhaid i'r traethawd prosiect ymwneud a phroblemau, technegau neu ffynonellau a drafodwyd gan y modiwl cysylltiedig. Bydd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddyfnhau neu atgyfnerthu eu gafael ar y problemau, y technegau neu'r ffynonellau hyn. Rhaid cael cymeradwyaeth i bynciau neu themau'r traethawd gan Gydgysylltydd y Modiwl ymlaen llaw. Rhaid i'r traethawd gorffenedig beidio a bod yn fwy na 5,000 o eiriau, sef rhyw 20 tudalen o deipysgrif a gofod dwbl rhwng y llinellau. Rhaid ei gyflwyno erbyn y dydd Gwener olaf yn semester dysgu'r modiwl perthnasol.

Rhoddir yr holl fanylion i fyfyrwyr am reoliadau ar draethodau prosiect, gan gynnwys sut i'w cyflwyno, ar adeg cofrestru ym mis Medi.

Nodau

Mae'r modiwl hwn ar Lefel 6 FfCChC