Cod y Modiwl | DD10820 | |||||||||||
Teitl y Modiwl | PROSIECT YMARFEROL ESTYNEDIG | |||||||||||
Blwyddyn Academaidd | 2003/2004 | |||||||||||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Roger Owen | |||||||||||
Semester | Semester 2 | |||||||||||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Mr Andrew J Freeman | |||||||||||
Rhagofynion | DD10520 Unrhyw ddau o`r tri modiwl canlynol:, DD10120 , DD10320 | |||||||||||
Manylion y cyrsiau | Eraill | 120 Awr Prosiect. Prosiect ymarferol | ||||||||||
Dulliau Asesu |
| |||||||||||
Further details | Am wybodaeth ynglyn a dyddiadau cau gwaith cwrs, cyfeiriwch at dudalennau we yr Adran ar http://www.aber.ac.uk/tfts/duedates.shtml |
Fe fydd y modiwl hwn yn rhoi cyfle i grwp o fyfyrwyr i edrych dros y gwaith y byddant wedi ei gyflawni yn yr Adran (yn arbennig y modiwl craidd, DD10520).
Mae dull asesu`r modiwl wedi ei ddyfeisio er mwyn rhoi pwyslais ar y dasg o ddatblygu a chwblhau prosiect ymarferol mewn cydweithrediad gydag eraill. Ar yr un pryd, mae`n sicrhau bod pib unigolyn yn cael cyfle i arddangos hyd a lled ei d/ddealltwriaeth o`r prosiect ac o`r tasgiau gwahanol y bydd ef/hi wedi`u cwblhau yn ystod y broses.
Amcanion y modiwl hwn yw:
Arwain myfyrwyr i ail-ystyried agweddau ar y gwaith y byddant wedi ei gyflawni ym modiwlau Semester 1.
Dyfeisio a datblygu prosiect ymarferol a fydd yn amlygu dealltwriaeth o'r deunydd hwnnw.
Cyflwyno'r prosiect hwnnw mewn cydweithrediad a'u cydmyfyrwyr, gan ddefnyddio sgiliau dadansoddiadol, golygyddol a pherfformiadol perthnasol.
Mae'r modiwl hwn ar Lefel 4 FfCChC